Distyllu
Gallwn ni ddefnyddio distyllu i wahanu dau hylif sydd wedi eu cymysgu’n llwyr â’i gilydd i wneud hydoddiant.
Pan mae dau hylif yn gallu cymysgu’n llawn â’i gilydd, rydyn ni’n eu galw nhw’n hylifau cymysgadwy. Os yw hylifau’n ffurfio haenau sydd ddim yn cymysgu â’i gilydd, rydyn ni’n eu galw nhw’n hylifau anghymysgadwy.
Er mwyn gallu distyllu, mae angen i’r hylifau fod â berwbwyntiau gwahanol iawn. Mae ethanol a dŵr yn enghraifft dda. Mae’r rhain yn ddau hylif di-liw clir sy’n edrych bron yn union yr un fath. Fodd bynnag, mae ethanol yn berwi ar dymheredd 78°C ac mae dŵr yn berwi ar dymheredd 100°C. Felly pan mae’r cymysgedd yn cyrraedd 78°C mae’r ethanol yn berwi ac yn teithio i’r tiwb berwi fel nwy. Wedyn mae’n cyddwyso fel ethanol crynodedig iawn (nid ethanol pur, oherwydd byddai rhywfaint o’r dŵr yn y cymysgedd yn dal i anweddu) ac yn cael ei gasglu (yr hylif sy’n cael ei gasglu ar ddiwedd y distyllu yw’r distyllad). Yna, dŵr fydd y rhan fwyaf o’r hylif sydd ar ôl yn y fflasg gonigol. I gael dŵr pur, byddai’n rhaid newid y fflasg dderbyn pan mae’r tymheredd ar y thermomedr yn cyrraedd 100°C.