Dihalwyno
Dihalwyno yw tynnu halen o ddŵr y môr. Mae hyn yn cynhyrchu dŵr yfed glân ac mae’n arbennig o ddefnyddiol mewn gwledydd sydd â morlin ond heb ffynonellau dŵr croyw, fel afonydd a nentydd, ar gael iddynt.
Mae dihalwyno’n defnyddio un o ddau brif ddull. Y dull cyntaf yw osmosis gwrthdro, lle mae dŵr y môr yn cael ei orfodi drwy bilen dan wasgedd uchel. Mae’r bilen yn gadael i foleciwlau dŵr fynd drwodd ond yn atal unrhyw gemegion eraill sydd wedi’u hydoddi yn y dŵr rhag mynd drwodd.
Yr ail ddull yw dihalwyno thermol. Mae gweithfeydd dihalwyno (thermol) hŷn yn defnyddio egwyddor debyg i distylluTechneg gwahanu lle mae hydoddiant yn cael ei wresogi fel bod yr hydoddydd yn anweddu cyn cael ei oeri i ffurfio hylif pur.:
- gwresogi’r heli neu adael i’r dŵr anweddu
- casglu’r anwedd dŵr yn hytrach na’i golli
- cyddwyso’r anwedd dŵr i ffurfio dŵr pur/dŵr croyw
- mae’r halen yn cael ei adael ar ôl a gallwn ni ei ddefnyddio i wneud pethau eraill
Mae nifer o anfanteision i ddefnyddio dihalwyno.
- Mae’r ddwy broses ddihalwyno’n defnyddio llawer mwy o egni na dulliau traddodiadol o drin dŵr.
- Oherwydd bod angen mwy o egni, mae dihalwyno’n ddrutach na dulliau traddodiadol o drin dŵr. Mae hyn yn golygu nad yw rhai gwledydd tlawd yn gallu fforddio dihalwyno, er y byddai o fudd iddynt.
- Oherwydd bod angen mwy o egni, mae dihalwyno’n cynhyrchu llawer iawn mwy o nwyon tŷ gwydr na dulliau traddodiadol o drin dŵr.
- Mae’r dŵr hallt iawn sy’n cael ei gynhyrchu drwy ddihalwyno â philen yn llygrydd ac mae’n rhaid cael gwared ag ef yn ofalus.
- Mae gweithfeydd dihalwyno’n gallu bod yn bell iawn oddi wrth rai ardaloedd poblog, a rhaid adeiladu pibellau dŵr hir iawn i gludo’r dŵr at y bobl sydd ei angen.
Yn y Dwyrain Canol mae’r rhan fwyaf o ddihalwyno’n digwydd oherwydd:
- does dim llawer o lawiad
- mae gan lawer o’r gwledydd forlinau
- mae olew rhad ar gael i lawer o’r gwledydd i gael egni
- mae llawer o’r gwledydd yn eithaf cyfoethog