Cadwraeth dŵr
Dros y 100 mlynedd diwethaf, rydyn ni wedi defnyddio mwy a mwy o ddŵr oherwydd cynnydd yn y galw am ddŵr yng nghartrefi pobl, yn ogystal â galw am ddŵr ar gyfer amaethyddiaeth a diwydiant.
Mae angen llawer o egni ac arian i buro dŵr, felly mae pobl yn cael eu cynghori i ddefnyddio llai o ddŵr os yw hynny’n bosibl. Dyma rai dulliau o wneud hyn:
- cymryd cawodydd byr yn lle cawodydd hir neu faddon
- ailddefnyddio dŵr y baddon neu’r sinc drwy ei roi i blanhigion
- gwneud yn siŵr bod peiriannau golchi dillad a llestri’n llawn cyn eu defnyddio nhw
- gwneud yn siŵr bod tapiau wedi eu cau pan nad oes neb yn eu defnyddio nhw
- trwsio tapiau sy’n gollwng
- gosod toiled â gosodiad ‘fflysio byr’
- ynysu pibellau dŵr i leihau’r siawns o bibellau’n byrstio yn ystod misoedd y gaeaf
- gosod mesurydd dŵr i fonitro faint o ddŵr sy’n cael ei ddefnyddio
Tynnu dŵr
Mae angen tynnu dŵr o ffynonellau naturiol er mwyn i bobl ei ddefnyddio. Mae llawer o ddulliau tynnu dŵr, gan gynnwys:
- pwmpio dŵr o dan ddaear
- adeiladu cronfeydd a chreu argaeau
- cymryd dŵr o afonydd/llynnoedd
- casglu dŵr glaw
- dihalwyno (tynnu halen o ddŵr y môr)
Weithiau bydd rhai pobl yn gwrthwynebu defnyddio’r dulliau hyn, yn enwedig creu cronfeydd ac argaeau. Projectau mawr sy’n boddi darnau mawr o dir yw rhain, ac felly’n dinistrio cynefinoedd ac yn newid golwg yr ardal.
Dosbarthu dŵr
Rydyn ni’n tynnu dŵr o fannau penodol, ond mae’n bosibl bod y mannau lle mae angen y dŵr lawer o filltiroedd i ffwrdd. Rhaid peipio’r dŵr i’r mannau hyn i ddarparu dyfrhad i gnydau sy’n tyfu, dŵr i’w yfed a dŵr ar gyfer iechydaeth.
Mae dosbarthu dŵr yn ddrud a does dim dŵr glân ar gael mewn llawer o fannau yn y byd, yn enwedig gan mai rhai o ardaloedd sychaf y byd yw’r tlotaf hefyd. Mae angen y dŵr hwn i’w yfed a hefyd i ddarparu dyfrhad i gnydau sy’n tyfu i atal newyn.