Fflworideiddio
Fflworideiddio yw ychwanegu symiau bach o fflworid at ddŵr yfed i atal pydredd dannedd. Mae hyn yn digwydd mewn rhai ardaloedd yn y Deyrnas Unedig.
Mae pydredd dannedd yn digwydd pan mae’r enamel ar arwyneb allanol dannedd yn adweithio ag asid ac yn hydoddi. Mae’r asid yn gallu bodoli’n naturiol mewn bwyd neu gael ei wneud gan facteria sy’n byw yn ein cegau o’r siwgr rydyn ni’n ei fwyta (asid plac). Enw’r broses o hydoddi’r enamel yw dadfwyneiddio. Pan mae’r asidau’n cael eu niwtralu gan boer neu fel arall, mae’r mwynau’n mynd yn ôl i mewn i’r enamel – ailfwyneiddio.
Mae fflworid yn helpu i atal pydredd dannedd yn y ffyrdd canlynol.
- Mae'n newid adeiledd yr enamel sy’n datblygu mewn plant ifanc fel ei fod yn gallu gwrthsefyll adweithio ag asid.
- Mae lefelau fflworid isel yn cynyddu cyfradd ailfwyneiddio.
- Mae'n lleihau gallu bacteria plac i ffurfio asid.
Mae’r rhan fwyaf o bobl yn derbyn bod fflworid yn fuddiol, ond mae rhai rhesymau pam mae pobl yn meddwl na ddylen ni ei ychwanegu at ein dŵr.
- Mae lefelau fflworid uchel yn gallu achosi fflworosis deintyddol, cyflwr sy’n achosi i ddarnau gwyn ffurfio ar arwyneb enamel. Mae cymeriant uchel o fflworid hefyd yn gallu achosi problemau iechyd fel canser y stumog ac anffrwythlondeb.
- Mae tua 90 y cant o fathau o bast dannedd a hylif golchi ceg yn cynnwys crynodiadau fflworid uchel, felly mae rhai pobl yn dweud nad oes angen dŵr wedi’i fflworideiddio. Fodd bynnag, mae tystiolaeth yn dangos bod fflworideiddio dŵr yn dal i ostwng lefelau pydredd dannedd ymysg plant, er nad ydyn ni wedi darganfod pam.
- Mae rhai pobl yn credu na ddylen ni ychwanegu fflworid at ddŵr gan eu bod nhw’n gweld hynny fel math o driniaeth feddygol dorfol sy’n cael ei rhoi heb ganiatâd. Fodd bynnag, mae pawb yn derbyn bod angen ychwanegu clorin at ein dŵr er mwyn diogelwch y cyhoedd.
Cofia fod angen ystyried y wybodaeth sydd wedi’i dangos ar y graff yn ofalus iawn, oherwydd weithiau efallai na fydd digon o wybodaeth i ffurfio casgliad cryf. Dyma rai rhesymau posibl dros hyn.
- Efallai y bydd y wybodaeth yn canolbwyntio ar un grŵp penodol o bobl (hynny yw, grŵp oed, rhyw neu ethnigrwydd penodol).
- Efallai y bydd y wybodaeth yn canolbwyntio ar grŵp bach o bobl (hynny yw, pobl o un neu ddwy ddinas yn unig yn hytrach na’r wlad gyfan).
Yn ystod y 1980au, bu arbrawf i fflworideiddio dŵr yfed ar draws gwahanol ardaloedd yn y DU. Yn 1989, daeth yr arbrawf i ben ar Ynys Môn. Mae'r graff bar yn dangos cymhariaeth o bydredd dannedd ymysg plant pum mlwydd oed o Ynys Môn gyda phlant pum mlwydd oed o'r tir mawr yng Ngwynedd yn ystod y cyfnod 1987-1993.