Cyflenwadau dŵr naturiol
Mae dŵr yn adnodd hanfodol ledled y byd. Rydyn ni’n ei ddefnyddio yn y cartref i yfed, golchi, coginio a glanhau. Mae’n cael ei ddefnyddio’n ddiwydiannol fel oerydd, fel hydoddyddYr hylif y mae’r hydoddyn yn hydoddi ynddo i greu hydoddiant. ac fel defnydd crai mewn adweithiau cemegol.
Mae’r dŵr rydyn ni’n ei ddefnyddio wedi cael ei buro i ni. Mae dŵr o ffynonellau naturiol fel llynnoedd ac afonydd yn cynnwys nifer o sylweddau eraill, ac mae rhai o’r rhain yn gallu bod yn niweidiol i’n hiechyd ni.
- Ïonau wedi hydoddi – Wrth i ddŵr redeg drwy’r ddaear a drosti, mae’n hydoddi llawer o gemegion o greigiau sydd yna yn y dŵr ar ffurf ïonau. Yr ïonau mwyaf cyffredin mewn dŵr naturiol yw sodiwm, calsiwm, magnesiwm, sylffad, clorid a hydrogencarbonad.
- Nwyon wedi hydoddi – Mae nwyon o’r atmosffer yn gallu hydoddi mewn dŵr. Y nwyon pwysicaf sydd wedi hydoddi mewn dŵr naturiol yw ocsigen (sydd ei angen ar organebau dyfrol i resbiradu) a charbon deuocsid (sydd ei angen ar blanhigion i gyflawni ffotosynthesis).
- Micro-organebau – Mae cyflenwadau dŵr naturiol yn cynnwys niferoedd enfawr o facteria ac organebau microsgopig eraill. Mae rhai o’r microbOrganeb ficrosgopig o fach, fel bacteriwm neu ffwng ungellog. Maen nhw hefyd yn cael eu galw yn ficro-organebau. hyn yn gallu achosi clefydau ac felly mae hi’n gallu bod yn beryglus yfed dŵr heb ei drin o afonydd a llynnoedd. Gallwn ni gael gwared â’r micro-organebau niweidiol yn effeithiol yn ystod y broses o drin dŵr.
- Llygryddion – Wrth i ddŵr deithio drwy’r tir neu drosto i gyrraedd afonydd a llynnoedd, mae’n gallu hydoddi gwrteithiau a phlaleiddiaid cemegol o ffermydd, yn ogystal â gwastraff anifeiliaid. Y rhain sy’n ffurfio’r rhan fwyaf o’r llygryddion yn ein cyflenwadau dŵr naturiol, ac mae crynodiadau uchel ohonyn nhw’n gallu bod yn niweidiol i’n hiechyd ni. Weithiau, caiff llygryddion eu ‘dympio’ yn fwriadol mewn cyflenwadau dŵr, er bod hyn yn anghyfreithlon yn y Deyrnas Unedig.