Trin dŵr
Puro dŵr
Mae dŵr craiDŵr sy’n dod yn syth o’r amgylchedd naturiol, fel dŵr o afonydd a llynnoedd. yn cynnwys ïonau wedi hydoddi, micro-organebau, llygryddion a defnyddiau anhydawddMethu hydoddi mewn hydoddydd penodol. Er enghraifft, mae tywod yn anhydawdd mewn dŵr. fel tywod a cherrig. Rydyn ni’n trin dŵr i gael gwared ag unrhyw gyfansoddion niweidiol cyn ei roi yn y cyflenwad cyhoeddus. Mae hyn yn digwydd mewn llawer o ffyrdd.
- Gwaddodi – storio’r dŵr mewn tanc mawr neu gronfa. Mae hyn yn arafu llif y dŵr ac yn gadael i ronynnau mawr, anhydawdd setlo yn y gwaelod. Yna, gallwn ni dynnu’r dŵr mwy glân o’r rhan uchaf ar gyfer y cam nesaf.
- Hidlo – chwistrellu’r dŵr ar haenau o dywod a graean sydd wedi’u paratoi’n arbennig. Wrth iddo ddiferu drwodd, mae gronynnau anhydawdd llai yn cael eu tynnu. Mae’r gwelyau hidlo’n cael eu glanhau’n rheolaidd drwy bwmpio dŵr glân am yn ôl drwy’r hidlydd.
- Clorineiddio – chwistrellu nwy clorin i mewn i’r dŵr i’w diheintioLladd unrhyw organebau byw, fel arfer microbau sy’n gallu achosi clefydau, ar wrthrych neu mewn sylwedd.. Mae’r clorin yn wenwynig felly mae’n lladd micro-organebau.
Puro dŵr drwy waddodi, hidlo ac ychwanegu clorin