Gwneud halwynau anhydawdd [TGAU Cemeg yn unig]
I wneud halwyn anhydawddMethu hydoddi mewn hydoddydd penodol. Er enghraifft, mae tywod yn anhydawdd mewn dŵr., mae angen i ddau halwyn hydawddYn gallu hydoddi mewn hydoddydd. Er enghraifft, mae siwgr yn hydawdd mewn dŵr am ei fod yn hydoddi i greu hydoddiant siwgr. adweithio â’i gilydd mewn adwaith gwaddodAdwaith lle mae solid anhydawdd yn ffurfio wrth gymysgu hydoddiannau penodol..
Mae’r tabl yn dangos halwynau hydawdd ac anhydawdd.
| Hydawdd | Anhydawdd |
| Pob nitrad | Dim |
| Pob halwyn sodiwm, potasiwm ac amoniwm cyffredin | Dim |
| Y rhan fwyaf o sylffadau cyffredin | Calsiwm sylffad a bariwm sylffad |
| Y rhan fwyaf o gloridau cyffredin | Arian clorid |
| Carbonadau lithiwm, sodiwm, potasiwm ac amoniwm | Y rhan fwyaf o garbonadau cyffredin |
| Hydawdd | Pob nitrad |
|---|---|
| Anhydawdd | Dim |
| Hydawdd | Pob halwyn sodiwm, potasiwm ac amoniwm cyffredin |
|---|---|
| Anhydawdd | Dim |
| Hydawdd | Y rhan fwyaf o sylffadau cyffredin |
|---|---|
| Anhydawdd | Calsiwm sylffad a bariwm sylffad |
| Hydawdd | Y rhan fwyaf o gloridau cyffredin |
|---|---|
| Anhydawdd | Arian clorid |
| Hydawdd | Carbonadau lithiwm, sodiwm, potasiwm ac amoniwm |
|---|---|
| Anhydawdd | Y rhan fwyaf o garbonadau cyffredin |
Gallwn ni weld o’r tabl bod arian clorid yn halwyn anhydawdd. Gallwn ni ei wneud drwy adweithio halwyn arian hydawdd â halwyn clorid hydawdd.
Mae arian nitrad a sodiwm clorid yn ddau halwyn hydawdd. Pan mae eu hydoddiannau’n cael eu cymysgu, mae sodiwm nitrad hydawdd ac arian clorid anhydawdd yn ffurfio.
arian nitrad + sodiwm clorid → sodiwm nitrad + arian clorid
AgNO3(dyfr) + NaCl(dyfr) → NaNO3(dyfr) + AgCl(s)
Dyma hafaliad ïonig y broses hon.
Ag+(dyfr) + Cl–(dyfr) → AgCl(s)
Mae’r arian clorid yn ymddangos fel gronynnau bach iawn mewn daliantCymysgedd o ddau sylwedd, y naill wedi’i wasgaru’n fân drwy’r llall. yng nghymysgedd yr adwaith – dyma’r gwaddodDaliant o ronynnau mewn hylif sy’n cael ei ffurfio pan mae sylwedd a oedd wedi ei hydoddi yn dod yn anhydawdd, ee mewn adwaith gwaddod.. Gallwn ni hidlo’r gwaddod, ei olchi â dŵr ar y papur hidlo, ac yna ei sychu mewn ffwrn.
Gallwn ni ddefnyddio adwaith tebyg i brofi am bresenoldeb ïonau sylffad. Mae cymysgu hydoddiant bariwm clorid (neu fariwm nitrad) â hydoddiant sy’n cynnwys ïonau sylffad yn ffurfio gwaddod gwyn.
MgSO4(dyfr) + BaCl2(dyfr) → BaSO4(s) + MgCl2(dyfr)
Dyma hafaliad ïonig y broses hon.
Ba2+(dyfr) + SO42–(dyfr) → BaSO4(s)