Enwi halwynau
halwynCyfansoddyn sy’n cael ei ffurfio wrth i fas, ee ocsid metel, niwtraleiddio asid wrth i ïonau metel neu ïonau positif eraill ddisodli ïonau hydrogen yn yr asid. Mae sodiwm clorid, sef halen, yn enghraifft o gyfansoddyn o’r fath. yw unrhyw cyfansoddynSylwedd sy'n cael ei ffurfio gan uniad cemegol dwy neu ragor o elfennau drwy ffurfio bond neu fondiau. sy’n ffurfio yn adwaith niwtraleiddioAdwaith rhwng asid a bas i ffurfio halwyn a dŵr.asidSylwedd cyrydol sydd â pH is na 7. Mae asidedd yn cael ei achosi gan grynodiad uchel o ïonau hydrogen. â basSylwedd sy'n adweithio ag asid i'w niwtralu a chynhyrchu halwyn..
Mae dwy ran i enw halwyn. Mae’r rhan gyntaf yn dod o’r metel, y metel ocsid neu’r metel carbonad. Mae’r ail ran yn dod o’r asid.
Galli di ddarganfod enw unrhyw halwyn drwy edrych ar yr adweithyddion:
- mae asid nitrig bob amser yn cynhyrchu halwynau sy’n gorffen â nitrad ac yn cynnwys yr ïon nitrad, NO3–
- mae asid hydroclorig bob amser yn cynhyrchu halwynau sy’n gorffen â'r gair clorid ac yn cynnwys yr ïon clorid, Cl–
- mae asid sylffwrig bob amser yn cynhyrchu halwynau sy’n gorffen â sylffad ac yn cynnwys yr ïon sylffad, SO42–
Er enghraifft, os yw potasiwm ocsid yn adweithio ag asid sylffwrig, y cynhyrchion fydd potasiwm sylffad a dŵr.
Mae’r tabl yn dangos mwy o enghreifftiau.
| Metel | Asid | Halwyn | ||
| Sodiwm hydrocsid | yn adweithio ag | Asid hydroclorig | i wneud | Sodiwm clorid |
| Copr(II) ocsid | yn adweithio ag | Asid hydroclorig | i wneud | Copr(II) clorid |
| Sodiwm hydrocsid | yn adweithio ag | Asid sylffwrig | i wneud | Sodiwm sylffad |
| Sinc ocsid | yn adweithio ag | Asid sylffwrig | i wneud | Sinc sylffad |
| Sodiwm hydrocsid | yn adweithio ag | Asid nitrig | i wneud | Sodiwm nitrad |
| Copr(II) carbonad | yn adweithio ag | Asid nitrig | i wneud | Copr(II) nitrad |
| Metel | Sodiwm hydrocsid |
|---|---|
| yn adweithio ag | |
| Asid | Asid hydroclorig |
| i wneud | |
| Halwyn | Sodiwm clorid |
| Metel | Copr(II) ocsid |
|---|---|
| yn adweithio ag | |
| Asid | Asid hydroclorig |
| i wneud | |
| Halwyn | Copr(II) clorid |
| Metel | Sodiwm hydrocsid |
|---|---|
| yn adweithio ag | |
| Asid | Asid sylffwrig |
| i wneud | |
| Halwyn | Sodiwm sylffad |
| Metel | Sinc ocsid |
|---|---|
| yn adweithio ag | |
| Asid | Asid sylffwrig |
| i wneud | |
| Halwyn | Sinc sylffad |
| Metel | Sodiwm hydrocsid |
|---|---|
| yn adweithio ag | |
| Asid | Asid nitrig |
| i wneud | |
| Halwyn | Sodiwm nitrad |
| Metel | Copr(II) carbonad |
|---|---|
| yn adweithio ag | |
| Asid | Asid nitrig |
| i wneud | |
| Halwyn | Copr(II) nitrad |
I ysgrifennu hafaliadau symbolau adweithiau asidau â’r pedwar bas hyn, bydd angen i ti ddysgu fformiwlâu sylweddau cyffredin a sut i ysgrifennu fformiwlâu o ïonau. Mae hyn yn cael sylw yn Natur sylweddau ac adweithiau cemegol.