Y raddfa pH a dangosyddionDangosyddion

Gallwn ni ddefnyddio dangosyddion i ddosbarthu llawer o gemegion fel cemegion asidig, niwtral neu alcalïaidd. Rydyn ni'n defnyddio'r raddfa pH i fesur asidedd ac alcalinedd. Pan mae asid yn cael ei niwtraleiddio, mae'n ffurfio halwyn.

Part ofCemegAsidau, basau a halwynau

Dangosyddion

Pan gaiff ei hydoddi mewn dŵr, mae’n gwneud hydoddiant asidig.

Pan gaiff ei hydoddi mewn dŵr, mae’n ac mae’n gwneud hydoddiant alcalïaidd. Os nad yw hydoddiant yn asidig nac yn alcalïaidd, mae’n niwtral. Mae dŵr pur yn niwtral, yn ogystal â .

Dangosyddion yw sylweddau sy’n newid lliw wrth gael eu hychwanegu at hydoddiannau asidig neu alcalïaidd. Dangosydd cyffredinol yw’r dangosydd sy’n cael ei ddefnyddio amlaf yn y labordy.

Y raddfa pH

Mae priodweddau cemegol llawer o hydoddiannau’n ein galluogi ni i’w rhannu nhw’n dri chategori – hydoddiannau asidig, alcalïaidd a niwtral.

Rydyn ni’n defnyddio’r raddfa i fesur asidedd ac alcalinedd:

  • mae hydoddiannau â pH llai na 7 yn asidig
  • mae hydoddiannau â pH o 7 yn niwtral
  • mae hydoddiannau â pH mwy na 7 yn alcalïaidd

Os ydyn ni’n ychwanegu dangosydd cyffredinol at hydoddiant, mae’n newid i liw sy’n dangos pH yr hydoddiant. Mae dangosydd cyffredinol yn gymysgedd o ddangosyddion eraill, a gallwn ni ei ddefnyddio i fesur yn fras beth yw pH hydoddiant. Gallwn ni gael gwerth mwy manwl gywir drwy ddefnyddio chwiliedydd pH.

Diagram o'r raddfa pH - rydyn ni'n defnyddio hon i fesur asidedd ac alcalinedd hydoddiannau.
Figure caption,
Y raddfa pH a lliwiau dangosydd cyffredinol

More guides on this topic