Y raddfa pH a dangosyddionAsidau ac alcalïau

Gallwn ni ddefnyddio dangosyddion i ddosbarthu llawer o gemegion fel cemegion asidig, niwtral neu alcalïaidd. Rydyn ni'n defnyddio'r raddfa pH i fesur asidedd ac alcalinedd. Pan mae asid yn cael ei niwtraleiddio, mae'n ffurfio halwyn.

Part ofCemegAsidau, basau a halwynau

Asidau ac alcalïau

Pan mae neu grwpiau o atomau’n colli neu’n ennill , mae gronynnau â gwefr o’r enw ïonau yn ffurfio. Mae’r wefr ar yr ïonau hyn yn gallu bod yn bositif neu’n negatif.

Asidau

Pan mae asidau’n hydoddi mewn dŵr, maen nhw’n cynhyrchu ïonau hydrogen, H+. Weithiau, rydyn ni’n galw’r rhain yn , oherwydd mae ïonau hydrogen yr un fath â hydrogen (sef proton).

Er enghraifft, edrych ar hafaliad asid hydroclorig.

HCl(dyfr) → H+(dyfr) + Cl(dyfr)

Mae (dyfr) yn golygu bod y sylwedd mewn hydoddiant.

Yn aml, caiff asidau eu cynhyrchu o ocsidau anfetel. Er enghraifft, mae ocsidau sylffwr yn gwneud asid sylffwrig.

Alcalïau

Pan mae alcalïau’n hydoddi mewn dŵr, maen nhw’n cynhyrchu ïonau hydrocsid, OH.

Er enghraifft, edrych ar hafaliad sodiwm hydrocsid.

NaOH(dyfr) → Na+(dyfr) + OH(dyfr)

Mae amonia ychydig bach yn wahanol. Dyma hafaliad amonia mewn hydoddiant.

NH3(dyfr) + H2O(h) → NH4+(dyfr) + OH(dyfr)

Basau

Bas yw’r gwrthwyneb cemegol i asid. Mae rhai basau’n hydoddi mewn dŵr, ac rydyn ni’n galw’r rhain yn alcalïau. Mae basau eraill, gan gynnwys llawer o ocsidau metel, yn anhydawdd mewn dŵr.

Adwaith niwtraleiddio [Haen uwch yn unig]

Pan mae’r ïonau H+ o asid yn adweithio â’r ïonau OH o alcali, mae adwaith niwtraleiddio’n digwydd i ffurfio dŵr. Dyma hafaliad yr adwaith.

H+(dyfr) + OH(dyfr) → H2O(h)

Er enghraifft, mae asid hydroclorig a hydoddiant sodiwm hydrocsid yn adweithio â’i gilydd i ffurfio dŵr a hydoddiant sodiwm clorid. Mae’r asid yn cynnwys ïonau H+ ac ïonau Cl, ac mae’r alcali’n cynnwys ïonau Na+ ac ïonau OH. Mae’r ïonau H+ a’r ïonau OH yn cynhyrchu’r dŵr, ac mae’r ïonau Na+ a’r ïonau Cl yn cynhyrchu’r sodiwm clorid, NaCl(dyfr).

Gan fod adweithiau niwtraleiddio’n cynnwys colli ac ennill ïonau hydrogen, rydyn ni weithiau’n galw’r broses hon yn ‘drosglwyddo protonau’.

More guides on this topic