Adweithiau ag asidau
Asidau a metelau adweithiol
Bydd asidau’n adweithio â metelau adweithiol, fel magnesiwm a sinc, i wneud halwyn a hydrogen.
asid + metel → halwyn + hydrogen
asid hydroclorig + sinc → sinc clorid + hydrogen
2HCl + Zn → ZnCl2 + H2
Mae’r hydrogen yn gwneud swigod yn ystod yr adwaith, a gallwn ni ei ganfod drwy ddefnyddio sblint sy’n llosgi sy’n gwneud sŵn pop gwichlyd.
Yn gyffredinol, y mwyaf adweithiol yw’r metel, y cyflymaf yw’r adwaith. Gallwn ni weld hyn gan fod y metelau mwy adweithiol yn rhyddhau mwy o swigod bob eiliad, fel mae’r diagram yn ei ddangos.
Mae’r diagram yn dangos mai alwminiwm yw’r mwyaf adweithiol o’r pedwar metel, wedyn sinc, wedyn haearn ac yn olaf, copr.
Sylwa hefyd fod adwaith metelau ag asidau’n ecsothermig (hynny yw, yn rhyddhau egni gwres).
Asidau a hydrocsidau metel (alcalïau)
Pan mae asidau’n adweithio â hydrocsidau metel (sef alcalïau), maen nhw’n gwneud halwyn a dŵr.
asid + metel hydrocsid → halwyn + dŵr
asid nitrig + lithiwm hydrocsid → lithiwm nitrad + dŵr
HNO3 + LiOH → LiNO3 + H2O
[Haen uwch yn unig]
Gallwn ni gynrychioli’r adwaith rhwng hydrocsid metel ac asid â hafaliad ïonig rhwng yr ïonau hydrogen a’r ïonau hydrocsid i ffurfio moleciwlau dŵr.
H+(dyfr) + OH–(dyfr) → H2O(h)
Sylwa hefyd fod adwaith hydrocsidau metel ag asidau’n ecsothermig (hynny yw, yn rhyddhau egni gwres).
Asidau a basau
Pan mae asidau’n adweithio â bas, maen nhw’n gwneud halwyn a dŵr.
asid + bas → halwyn + dŵr
asid nitrig + magnesiwm ocsid → magnesiwm nitrad + dŵr
2HNO3 + MgO → Mg(NO3)2 + H2O
Sylwa hefyd fod adwaith ocsidau metel ag asidau’n ecsothermig (hynny yw, yn rhyddhau egni gwres).
Asidau a charbonadau metel
Pan mae asidau’n adweithio â charbonadau, fel calsiwm carbonad (sydd mewn sialc, calchfaen a marmor), maen nhw’n gwneud halwyn, dŵr a charbon deuocsid.
asid + metel carbonad → halwyn + dŵr + carbon deuocsid
asid sylffwrig + haearn(II) carbonad → haearn(II) sylffad + dŵr + carbon deuocsid
H2SO4 + FeCO3 → FeSO4 + H2O + CO2
Mae’r carbon deuocsid yn achosi byrlymu yn ystod yr adwaith, ac rydyn ni’n ei weld yn ffisian. Gallwn ni hefyd ei ganfod drwy yrru’r nwy drwy ddŵr calch, sy’n troi’n llaethog.
Hefyd, mae adwaith carbonadau metel ag asidau’n ecsothermig (hynny yw, yn rhyddhau egni gwres).
Gallwn ni ddefnyddio’r math hwn o adwaith i brofi hydoddiannau anhysbys i weld ydyn nhw’n asidig. Ychwanega hydoddiant sodiwm carbonad at yr hydoddiant, ac os yw’n rhyddhau nwy carbon deuocsid, mae’r hydoddiant yn asidig.
Gallwn ni hefyd ddefnyddio’r math hwn o adwaith i brofi hydoddiannau anhysbys am bresenoldeb ïonau carbonad (CO32–). Ychwanega asid at yr hydoddiant, ac os yw’n rhyddhau swigod carbon deuocsid, mae’r hydoddiant yn cynnwys ïonau carbonad.