Gwneud halwynauGwneud halwyn â bas/metel/carbonad

Mae asidau’n adweithio â metelau, basau a charbonadau i gynhyrchu halwynau. Niwtralu yw’r adwaith rhwng asid a bas.

Part ofCemegAsidau, basau a halwynau

Gwneud halwyn â bas/metel/carbonad

Mae metelau, basau, rhai hydrocsidau metel a rhai carbonadau metel, yn anhydawdd mewn dŵr.

Rwyt ti’n ychwanegu’r bas/carbonad/metel at yr asid cynnes nes does dim mwy’n hydoddi ac mae ychydig o’r hydoddyn anhydawdd dros ben – ‘gormodedd’ yw hyn.

Ar gyfer metelau a charbonadau metel, mae’r adwaith yn stopio hisian i roi arwydd arall ei fod wedi gorffen. Rwyt ti’n hidlo’r cymysgedd i gael gwared ar y gormodedd bas/carbonad/metel i gael yr hydoddiant halwyn pur.

Mae’r hydoddiant pur yn gallu diferu drwy’r papur hidlo i’r bicer oddi tano, gan adael y solidau anhydawdd ar ôl.

Image gallerySkip image gallerySlide1 of 3, Mewn un bicer, mae cymysgedd o ormodedd o'r bas a hydoddiant halwyn. Mewn bicer arall, mae twndis a phapur hidlo ynddo., 1. Y broses hidlo

Anweddu

I gael yr halwyn pur o’r hydoddiant, mae angen cael gwared â rhywfaint o’r dŵr. Rydyn ni’n defnyddio dull o’r enw .

Gallwn ni anweddu rhywfaint o’r dŵr drwy ddefnyddio llosgydd Bunsen (fel sydd i’w weld isod).

Ffordd arall o anweddu rhywfaint o’r dŵr yw drwy roi’r hydoddiant yn agos at wresogydd/sil ffenestr. Bydd hyn yn anweddu’r dŵr yn llawer arafach ac yn ffurfio grisialau mwy.

Cynhesu’r hydoddiant halwyn i anweddu'r dŵr. Byddi di’n cael grisialau mwy drwy anweddu’r dŵr yn araf.

Image gallerySkip image gallerySlide1 of 3, Rhoi hydoddiant mewn basn anweddu a'i wresogi â llosgydd Bunsen., Cael yr halwyn o’r hydoddiant 1. Rhoi hydoddiant mewn dysgl anweddu a’i wresogi â llosgydd Bunsen