Gwneud halwyn ag alcali
I gynhyrchu halwyn wrth adweithio asidSylwedd cyrydol sydd â pH is na 7. Mae asidedd yn cael ei achosi gan grynodiad uchel o ïonau hydrogen. ag alcaliBas sy'n hydawdd mewn dŵr., rydyn ni’n defnyddio dull titradiadGweithdrefn feintiol lle mae dau hydoddiant yn adweithio mewn cymhareb ddiffiniedig, felly os ydyn ni’n gwybod beth ydy crynodiad un hydoddiant ac yn mesur cyfeintiau’r ddau, yna gallwn weld beth ydy crynodiad yr hydoddiant arall.. Bydd hyn yn cynhyrchu halwyn hydawdd.
Defnyddiau
Mae’r cyfarpar sydd ei angen yn cynnwys:
- pibed i fesur cyfaintMae cyfaint siâp tri dimensiwn yn dangos faint o le neu ofod sydd ynddo, ee cyfaint diod mewn can ydy 330 ml. penodol o asid neu alcali yn fanwl gywir
- llanwydd pibed i ddefnyddio’r bibed yn ddiogel
- fflasg gonigol i ddal yr hylif o’r bibed
- bwred i ychwanegu symiau bach wedi’u mesur o un adweithydd at yr adweithydd arall yn y fflasg gonigol
Cyfarpar sydd ei angen i gynnal titradiad
Dull
Dyma amlinelliad o’r dull i gynnal titradiad lle caiff asid ei ychwanegu at alcali.
- Defnyddio’r bibed a llanwydd pibed i roi 25 cm3 o alcali mewn fflasg gonigol lân.
- Ychwanegu rhai diferion o dangosyddSylwedd â gwahanol liwiau, gan ddibynnu ar pH yr hydoddiant mae’n cael ei roi ynddo. a rhoi’r fflasg gonigol ar deilsen wen.
- Llenwi’r fwred ag asid a nodi’r cyfaint cychwynnol.
- Ychwanegu’r asid o’r fwred yn araf at yr alcali yn y fflasg gonigol, gan ei chwyrlïo hi i gymysgu’r hydoddiant.
- Stopio ychwanegu’r asid ar ôl cyrraedd y diweddbwynt (pan mae’r newid lliw priodol yn digwydd i’r dangosydd). Nodi’r darlleniad cyfaint terfynol.
- Ailadrodd camau un i bump gan ddefnyddio’r un cyfaint o asid o’r fwred heb ddefnyddio dangosydd. Yna, gellir anweddu’r hydoddiant sydd wedi ffurfio i gael grisialau pur o’r halwyn.
Mae’r un dull yn gweithio i ychwanegu alcali at asid – dim ond amnewid yr hylifau sy’n mynd i mewn i’r fflasg gonigol a’r fwred.