Halogenau Grŵp 7Cyfres adweithedd

Enw arall ar elfennau Grŵp 7 yw'r halogenau. Tair elfen gyffredin Grŵp 7 yw clorin, bromin ac ïodin. Mae'r gair 'halogen' yn golygu 'ffurfydd halwyn'.

Part ofCemegAdeiledd atomig a'r tabl cyfnodol

Cyfres adweithedd

Drwy brofi gwahanol gyfuniadau o’r halogenau a’u halwynau, galli di ganfod ar gyfer Grŵp 7:

  • mae’r halogen mwyaf adweithiol yn dadleoli pob halogen arall o hydoddiannau o’u halwynau, a does dim un o’r lleill yn gallu dadleoli’r halogen hwn ei hun
  • dydy’r halogen lleiaf adweithiol ddim yn dadleoli dim un o’r lleill, ac mae pob un o’r lleill yn gallu dadleoli’r halogen hwn ei hun

Does dim ots os wyt ti’n defnyddio halwynau sodiwm neu halwynau potasiwm – mae’n gweithio yr un fath ar gyfer y ddau fath.

Mae’r lluniau’n dangos beth sy’n digwydd wrth ychwanegu clorin, bromin ac ïodin at wahanol halwynau halogen:

Image gallerySkip image gallerySlide1 of 6, Tiwbiau profi yn cynnwys potasiwm clorid, potasiwm bromid a photasiwm ïodid. Mae pibed o ddŵr clorin uwchben pob tiwb., Ychwanegu clorin, bromin ac ïodin at halwynau halogen Ychwanegu dŵr clorin at dri hydoddiant

Mae adweithiau dadleoli halogenau’n adweithiau rhydocs oherwydd mae’r halogenau’n ennill electronau ac mae’r halid yn colli electronau.

Wrth ystyried un o’r adweithiau dadleoli, gallwn ni weld pa elfen sy’n cael ei hocsidio a pha un sy’n cael ei rhydwytho.

bromin + potasiwm ïodid → ïodin + potasiwm bromid

Br2 + 2KI → I2 + 2KBr

Fel (gan anwybyddu’r ïonau potasiwm segur):

Br2 + 2I → I2 + 2Br

Gallwn ni weld bod y bromin wedi ennill electronau, felly mae wedi cael ei rydwytho. Mae’r ïonau ïodid wedi colli electronau, felly maen nhw wedi cael eu hocsidio.

Esbonio adweithedd [Haen uwch yn unig]

Wrth fynd i lawr Grŵp 7, mae'r adweithedd yn mynd yn llai. Er mwyn bod yn sefydlog, rhaid i'r atom gael plisgyn allanol llawn. Rhaid i elfennau Grŵp 7 ennill 1 electron i gael plisgyn llawn.

O ganlyniad, mae ïon negyddol yn cael ei ffurfio:

Cl + e → Cl

Wrth fynd i lawr y grŵp:

  • mae mwy o blisg rhwng y niwclews a'r electron allanol
  • mae'r grym atynnol rhwng y niwclews a'r electron allanol yn lleihau
  • mae'n anoddach ennill yr electron allanol