Adweithedd yr halogenau
Mae’r elfenSylwedd sydd wedi'i wneud o un math o atom yn unig. anfetel yn Grŵp 7 – sef yr halogenElfen yn grŵp 7 y tabl cyfnodol, sy’n dechrau â fflworin ac yn gorffen ag astatin. Mae’r enw ‘halogen’ yn golygu ‘cynhyrchu halwyn’ oherwydd mae’r halogenau’n cynhyrchu amrywiaeth o halwynau wrth adweithio â metelau. – yn mynd yn llai adweithiol wrth fynd i lawr y grŵp. Mae’r duedd hon y gwrthwyneb i duedd y metelau alcali yn Grŵp 1Y golofn fertigol gyntaf o elfennau yn y tabl cyfnodol, gan ddechrau gyda lithiwm a gorffen gyda ffranciwm. Mae’n cael ei alw yn fetelau alacalïaidd hefyd. y tabl cyfnodolCynrychioliad ar ffurf tabl o’r holl elfennau rydyn ni’n gwybod amdanyn nhw yn eu trefn ar sail rhif atomig, ee mae’r holl nwyon nobl i’w gweld ar ochr dde y tabl cyfnodol..
Fflworin yw’r elfen fwyaf adweithiol yn Grŵp 7.
Galli di weld y duedd adweithedd drwy adweithio’r halogenau â gwlân haearn.
| Halogen | Adwaith â gwlân haearn |
| Fflworin | Adweithio â bron unrhyw beth ar unwaith. Ychydig iawn o wyddonwyr sy’n gweithio â fflworin am ei fod mor beryglus. Mae’n cynhyrchu haearn(III) fflworid. |
| Clorin | Adweithio â gwlân haearn wedi’i wresogi yn gyflym iawn, ond ddim mor gyflym â fflworin. Mae’n cynhyrchu haearn(III) clorid. |
| Bromin | Rhaid ei gynhesu a gwresogi’r gwlân haearn. Mae’r adwaith yn gyflymach nag adwaith ïodin, ond yn arafach nag adwaith clorin. Mae’n cynhyrchu haearn(III) bromid. |
| Ïodin | Rhaid ei wresogi’n gryf yn ogystal â’r gwlân haearn. Mae’r adwaith yn araf. Mae’n cynhyrchu haearn(III) ïodid. |
| Halogen | Fflworin |
|---|---|
| Adwaith â gwlân haearn | Adweithio â bron unrhyw beth ar unwaith. Ychydig iawn o wyddonwyr sy’n gweithio â fflworin am ei fod mor beryglus. Mae’n cynhyrchu haearn(III) fflworid. |
| Halogen | Clorin |
|---|---|
| Adwaith â gwlân haearn | Adweithio â gwlân haearn wedi’i wresogi yn gyflym iawn, ond ddim mor gyflym â fflworin. Mae’n cynhyrchu haearn(III) clorid. |
| Halogen | Bromin |
|---|---|
| Adwaith â gwlân haearn | Rhaid ei gynhesu a gwresogi’r gwlân haearn. Mae’r adwaith yn gyflymach nag adwaith ïodin, ond yn arafach nag adwaith clorin. Mae’n cynhyrchu haearn(III) bromid. |
| Halogen | Ïodin |
|---|---|
| Adwaith â gwlân haearn | Rhaid ei wresogi’n gryf yn ogystal â’r gwlân haearn. Mae’r adwaith yn araf. Mae’n cynhyrchu haearn(III) ïodid. |
Haearn + clorin → haearn(III) clorid
2Fe + 3Cl2 → 2FeCl3
Haearn + bromin → haearn(III) bromid
2Fe + 3Br2 → 2FeBr3
Haearn + ïodin → haearn(III) ïodid
2Fe + 3I2 → 2FeI3