Halogenau Grŵp 7Priodweddau’r halogenau a'u defnydd

Enw arall ar elfennau Grŵp 7 yw'r halogenau. Tair elfen gyffredin Grŵp 7 yw clorin, bromin ac ïodin. Mae'r gair 'halogen' yn golygu 'ffurfydd halwyn'.

Part ofCemegAdeiledd atomig a'r tabl cyfnodol

Priodweddau’r halogenau a sut rydyn ni’n eu defnyddio nhw

Mae’r tabl hwn yn crynhoi rhai o briodweddau tri halogen a sut rydyn ni’n eu defnyddio nhw:

ElfenYmddangosiad (tymheredd ystafell)PriodweddauDefnydd nodweddiadol
ClorinNwy melyn-gwyrddGwenwynig - lladd bacteriaDiheintio dŵr
BrominHylif coch-brownGwenwynig - lladd bacteria[Dim ei angen]
ÏodinSolid llwydGwenwynig - lladd bacteriaAntiseptig sy’n cael ei ddefnyddio mewn triniaethau ysbyty
ElfenClorin
Ymddangosiad (tymheredd ystafell)Nwy melyn-gwyrdd
PriodweddauGwenwynig - lladd bacteria
Defnydd nodweddiadolDiheintio dŵr
ElfenBromin
Ymddangosiad (tymheredd ystafell)Hylif coch-brown
PriodweddauGwenwynig - lladd bacteria
Defnydd nodweddiadol[Dim ei angen]
ElfenÏodin
Ymddangosiad (tymheredd ystafell)Solid llwyd
PriodweddauGwenwynig - lladd bacteria
Defnydd nodweddiadolAntiseptig sy’n cael ei ddefnyddio mewn triniaethau ysbyty

Mae ïodin yn ffurfio porffor wrth gael ei gynhesu.

Mae’r halogenau i gyd yn bodoli fel moleciwlau deuatomig. Mae hyn yn golygu bod yr elfennau wedi’u gwneud o barau o atomau sydd wedi’u cysylltu’n gemegol (er enghraifft, mae fflworin yn bodoli fel F2, clorin fel Cl2, bromin fel Br2 ac ïodin fel I2).