Halogenau Grŵp 7Adweithiau dadleoli halogenau [Haen uwch yn unig]

Enw arall ar elfennau Grŵp 7 yw'r halogenau. Tair elfen gyffredin Grŵp 7 yw clorin, bromin ac ïodin. Mae'r gair 'halogen' yn golygu 'ffurfydd halwyn'.

Part ofCemegAdeiledd atomig a'r tabl cyfnodol

Adweithiau dadleoli halogenau [Haen uwch yn unig]

Mae adweithedd yr Grŵp 7 – yn lleihau wrth symud i lawr y grŵp. Gallwn ni ddangos hyn drwy edrych ar adweithiau dadleoli.

Diagram yn dangos adweithiau dadleoliad rhwng sodiwm clorid, sodiwm bromid, potasiwm ïodid; a dŵr clorin, dŵr bromin, hydoddiant ïodin.

Enghraifft

Pan mae clorin (fel nwy neu wedi’i hydoddi mewn dŵr) yn cael ei ychwanegu at hydoddiant sodiwm bromid, mae’r clorin yn cymryd lle’r bromin. Gan fod clorin yn fwy adweithiol na bromin, mae’n dadleoli y bromin o sodiwm bromid.

Mae’r hydoddiant yn troi’n frown. Y lliw brown hwn yw’r bromin wedi’i ddadleoli. Mae’r clorin wedi mynd i ffurfio sodiwm clorid.

Yn yr hafaliad hwn, mae’r Cl a’r Br wedi newid lle:

  • clorin + sodiwm bromid → sodiwm clorid + bromin
  • Cl2(dyfr) + 2NaBr(dyfr) → 2NaCl(dyfr) + Br2(dyfr)

Mae’r math hwn o adwaith yn digwydd gyda phob halogen.