Yr atomAdeiledd yr atom

Mae atomau'n cynnwys protonau, niwtronau ac electronau. Mae'r electronau wedi'u trefnu mewn plisg o gwmpas y niwclews.

Part ofCemegAdeiledd atomig a'r tabl cyfnodol

Adeiledd yr atom

Y model niwclear

Mae atomau’n cynnwys tri gronyn isatomig sef , ac .

Mae’r protonau a’r niwtronau yn y yng nghanol yr atom. Mae’r niwclews yn llawer llai na’r atom cyfan. Mae’r electronau wedi’u trefnu mewn plisg o gwmpas y niwclews.

Atom carbon â chwe electron mewn orbit o gwmpas y niwclews: dau yn y plisgyn egni cyntaf, pedwar yn yr ail.

Priodweddau gronynnau isatomig

GronynMàs cymharolGwefr gymharol
Proton1+1
Niwtron10
Electron\(\frac{1}{1836}\) Gallwn ni ddisgrifio hyn fel dibwys (bron yn sero).–1
GronynProton
Màs cymharol1
Gwefr gymharol+1
GronynNiwtron
Màs cymharol1
Gwefr gymharol0
GronynElectron
Màs cymharol\(\frac{1}{1836}\) Gallwn ni ddisgrifio hyn fel dibwys (bron yn sero).
Gwefr gymharol–1

Mae nifer yr electronau mewn atom bob amser yr un fath â nifer y protonau, felly mae atomau yn drydanol ar y cyfan.

Mae atomau’n gallu colli neu ennill electronau. Wrth wneud hyn, maen nhw’n ffurfio gronynnau â gwefr o’r enw ïonau:

  • os yw atom yn colli un neu fwy o electronau, mae’n ffurfio ïon â gwefr bositif
  • os yw atom yn ennill un neu fwy o electronau, mae’n ffurfio ïon â gwefr negatif