Yr atomMàs atomig cymharol

Mae atomau'n cynnwys protonau, niwtronau ac electronau. Mae'r electronau wedi'u trefnu mewn plisg o gwmpas y niwclews.

Part ofCemegAdeiledd atomig a'r tabl cyfnodol

Màs atomig cymharol

Mae gan wahanol wahanol fasau. Mae atomau mor fach, mae hi’n fwy cyfleus gwybod eu masau o gymharu â’i gilydd. Rydyn ni’n defnyddio carbon fel yr atom safonol, ac mae ganddo fàs atomig cymharol (Ar) o 12.

  • Os yw Ar atom yn llai na hyn, mae ei fàs yn llai na màs atom carbon.
  • Os yw Ar atom yn fwy na hyn, mae ei fàs yn fwy na màs atom carbon.

Gwerthoedd Ar elfennau

Mae’r tabl yn dangos rhai gwerthoedd Ar:

ElfenMàs atomig cymharol
Hydrogen, H1
Carbon, C12
Ocsigen, O16
Magnesiwm, Mg24
Clorin, Cl35.5
ElfenHydrogen, H
Màs atomig cymharol1
ElfenCarbon, C
Màs atomig cymharol12
ElfenOcsigen, O
Màs atomig cymharol16
ElfenMagnesiwm, Mg
Màs atomig cymharol24
ElfenClorin, Cl
Màs atomig cymharol35.5

Mae’r gwerthoedd hyn yn dangos bod màs atom magnesiwm ddwywaith cymaint â màs atom carbon, a 24 gwaith cymaint â màs atom hydrogen. Maen nhw hefyd yn dangos bod màs atom hydrogen 12 gwaith yn llai na màs atom carbon. Mae’r gwerthoedd Ar hefyd yn caniatáu i ti gyfrifo bod màs tri atom ocsigen yr un fath â màs dau atom magnesiwm.

Mae Ar clorin, sef 35.5, yn gyfartaledd masau’r gwahanol clorin.

Cyfrifo màs atomig cymharol o gyflenwad isotopig [Haen uwch yn unig]

Màs atomig cymharol elfen yw cyfartaledd pwysol masau atomau’r isotopau – oherwydd os oes llawer mwy o un isotop, bydd hwnnw’n cael llawer mwy o ddylanwad ar y màs cyfartalog na’r isotop llai cyffredin.

Er enghraifft, mae gan glorin ddau isotop: 35Cl a 37Cl. Ond dydy màs atomig cymharol clorin ddim yn 36. Mewn unrhyw sampl clorin, mae 75 y cant o’r atomau’n 35Cl ac mae’r 25 y cant arall yn 37Cl.

Rydyn ni’n cyfrifo’r màs atomig cymharol drwy ddefnyddio’r fformiwla ganlynol, wedi’i harddangos ar gyfer dau isotop. Mae’r cyflenwadau wedi’u rhoi fel gwerthoedd canran.

\(A_{r} = \frac{(mas~1 \times cyflenwad~1) + (mas~2 \times cyflenwad~2) + \ldots}{100}\)

Er enghraifft, gan ddefnyddio clorin:

\(A_{r} = \frac{(35 \times 75) + (37 \times 25)}{100}\)

\(A_{r} = \frac{(2625) + (925)}{100}\)

\(A_{r} = \frac{3550}{100}\)

\(A_{r} = 35.5\)