Rhif atomig a rhif màs
Nifer y protonGronyn isatomig gyda gwefr bositif a màs cymharol o 1. yn niwclews atomMae pob elfen wedi'i gwneud o atomau. Mae atom wedi'i wneud o niwclews sy’n cynnwys protonau a niwtronau, wedi'i amgylchynu ag electronau. yw rhif atomig yr atom:
- mae gan atomau o elfenSylwedd sydd wedi'i wneud o un math o atom yn unig. benodol i gyd yr un nifer o brotonau
- mae gan atomau elfennau gwahanol niferoedd gwahanol o brotonau
Cyfanswm nifer y protonau a’rniwtronGronyn isatomig heb ei wefru, gyda màs o 1 o’i gymharu â’r proton. mewn atom yw rhif màs yr atom.
Mae’r rhif atomig wedi’i ddangos o dan y symbol cemegol, ac mae’r rhif màs uwchben y symbol. Yn yr enghraifft hon, y rhif atomig yw 17 a’r rhif màs yw 35. Mae hyn yn golygu bod gan bob un o’r atomau hyn:
- 17 proton
- 17 electron
- 35 – 17 = 18 niwtron
Isotopau
Isotopau yw atomau o elfen sydd â nifer normal o brotonau (ac electronGronyn isatomig yw electron, sydd â gwefr negatif a'i fàs yn ddibwys o'i gymharu â phroton a niwtron.), ond niferoedd gwahanol o niwtronau. Mae gan isotopau yr un rhif atomig, ond rhifau màs gwahanol.
Tri isotop hydrogen
Mae’r rhan fwyaf o atomau hydrogen yn cynnwys un proton ac un electron yn unig, ond mae rhai hefyd yn cynnwys un neu ddau niwtron.