Adeiledd electronig
Plisg electronau
Mae electronGronyn isatomig yw electron, sydd â gwefr negatif a'i fàs yn ddibwys o'i gymharu â phroton a niwtron. wedi’u trefnu mewn gwahanol blisg o gwmpas y niwclewsRhan ganolog atom. Mae’n cynnwys protonau a niwtronau, a dyma lle mae’r rhan fwyaf o fàs yr atom. Mwy nag un niwclews yw niwclysau.. Dim ond nifer penodol o electronau mae pob un plisgyn yn gallu ei ddal.
Y plisgyn mewnol sy’n cael ei lenwi gyntaf. Mae’r plisgyn hwn yn gallu dal uchafswm o ddau electron. Mae’r ail blisgyn yn gallu dal uchafswm o wyth electron. Pan mae hwn yn llawn, mae electronau’n mynd i’r trydydd plisgyn, sydd hefyd yn dal uchafswm o wyth electron. Yna mae’r pedwerydd plisgyn yn dechrau llenwi.
| Plisgyn egni | Uchafswm nifer yr electronau |
| Cyntaf | 2 |
| Ail | 8 |
| Trydydd | 8 |
| Plisgyn egni | Cyntaf |
|---|---|
| Uchafswm nifer yr electronau | 2 |
| Plisgyn egni | Ail |
|---|---|
| Uchafswm nifer yr electronau | 8 |
| Plisgyn egni | Trydydd |
|---|---|
| Uchafswm nifer yr electronau | 8 |
Er enghraifft, mae gan atom lithiwm dri electron. Mae ganddo ddau yn y plisgyn cyntaf ac un yn yr ail blisgyn.
Mae gan atom carbon chwech electron. Mae ganddo ddau yn y plisgyn cyntaf a phedwar yn yr ail blisgyn.
Mae gan atom calsiwm 20 electron. Mae dau yn y plisgyn cyntaf, mae wyth yn yr ail blisgyn, mae wyth yn y trydydd plisgyn ac mae dau yn y pedwerydd plisgyn.