Halogenau Grŵp 7Rhagfynegi priodweddau

Enw arall ar elfennau Grŵp 7 yw'r halogenau. Tair elfen gyffredin Grŵp 7 yw clorin, bromin ac ïodin. Mae'r gair 'halogen' yn golygu 'ffurfydd halwyn'.

Part ofCemegAdeiledd atomig a'r tabl cyfnodol

Rhagfynegi priodweddau

Mae’r yn dangos tueddiadau yn eu priodweddau ffisegol wrth fynd i lawr y grŵp.

Ymdoddbwynt a berwbwynt

Mae gan yr halogenau ymdoddbwyntiau isel a berwbwyntiau isel. Mae hyn yn briodwedd nodweddiadol mewn anfetelau. Fflworin sydd â’r ymdoddbwynt a’r berwbwynt isaf. Yna, mae’r ymdoddbwynt a’r berwbwynt yn cynyddu wrth fynd i lawr y grŵp.

Graff yn dangos ymdoddbwyntiau a berwbwyntiau'r halogenau, yn amrywio o tua minws 200 °C ar gyfer fflworin i dros 300 °C ar gyfer astatin.
Figure caption,
Ymdoddbwyntiau a berwbwyntiau elfennau Grŵp 7

Cyflwr ar dymheredd ystafell

Rydyn ni fel arfer yn dweud mai 25°C yw tymheredd ystafell. Ar y tymheredd hwn, mae fflworin a chlorin yn nwyon, mae bromin yn hylif, ac mae ïodin ac astatin yn solidau. Felly, mae tuedd yn y cyflyrau o nwy i hylif i solid wrth fynd i lawr y grŵp.

Lliw

Mae’r halogenau’n mynd yn dywyllach wrth fynd i lawr y grŵp. Mae fflworin yn felyn golau iawn, mae clorin yn felyn-wyrdd, ac mae bromin yn goch-frown. Mae grisialau ïodin yn llwyd sgleiniog - ond yn troi’n anwedd porffor tywyll yn hawdd wrth gael eu cynhesu.

Rhagfynegiadau

Os gallwn ni weld tuedd ym mhriodweddau rhai o’r mewn grŵp, gallwn ni ragfynegi priodweddau elfennau eraill yn y grŵp hwnnw. Mae astatin o dan ïodin yn Grŵp 7. Mae lliw’r elfennau hyn yn mynd yn dywyllach wrth fynd i lawr y grŵp. Mae ïodin yn llwyd sgleiniog gydag anwedd porffor, ac mae astatin yn ddu.