HomeostasisTropeddau planhigion

Mae angen cadw’r amodau y tu mewn i’n corff yn gyson, ee mae lefel y siwgr yn y gwaed a’r tymheredd yn cael eu rheoleiddio’n ofalus. Mae ffordd o fyw yn gallu effeithio ar yr homeostasis hwn.

Part ofBiolegAmrywiad, homeostasis a micro-organebau

Tropeddau planhigion

Mae angen golau a dŵr ar blanhigion ar gyfer . Maen nhw wedi datblygu ymatebion - ydy’r enw ar hyn - i helpu i wneud yn siŵr eu bod yn tyfu tuag at ffynonellau goleuni a dŵr.

Pan mae planhigyn yn tyfu tuag at symbyliad, mae’n dropedd positif.

Ymatebion gwahanol rannau o’r planhigyn i ysgogiadau

Mae ymateb coesyn i olau yn ffototropedd positif (yn tyfu tuag at olau).

Mae ymateb gwreiddyn i ddisgyrchiant yn grafitropedd positif (yn tyfu tuag at dynfa disgyrchiant).

Awcsinau

Teulu o hormonau planhigol yw awcsinau. Maent yn cael eu gwneud yn bennaf ym mlaenau’r coesynnau a’r gwreiddiau, sef y meristemau. Maent yn gallu i rannau eraill o’r coesynnau neu’r gwreiddiau. Mae awcsinau’n newid cyfradd hwyhau celloedd planhigion, gan reoli eu hyd.

Mae coesynnau a gwreiddiau’n ymateb yn wahanol i grynodiad awcsinau uchel:

  • mae celloedd mewn coesynnau’n tyfu mwy
  • mae celloedd mewn gwreiddiau’n tyfu llai

Ffototropeddau

Mewn coesyn, mae’r ochr dywyll yn cynnwys mwy o awcsin ac mae’n tyfu’n hirach – gan achosi i’r coesyn blygu tuag at y golau.

Ffototropedd yn dangos coesyn planhigyn yn tyfu tuag at olau o uwchben
Ffototropedd yn dangos coesyn planhigyn yn plygu tuag at olau o un ochr. Mae awcsin yn casglu ar yr ochr dywyll gan achosi i'r celloedd ar yr ochr honno hwyhau.

Question

Alli di egluro pam mae’r tri chyffyn hyn wedi tyfu yn y modd hwn?

Tair set o blanhigion, A, B ac C. A: pellaf oddi wrth y golau, pwyntio i fyny, wedi tyfu tua 2cm. B: tyfu'n syth, wedi tyfu ddwywaith mor uchel ag A. C: wedi tyfu uchaf, ond yn plygu tuag at olau.

Grafitropeddau

Ymateb twf mewn planhigyn i rym disgyrchiant yw grafitropedd. Os caiff planhigyn ifanc ei roi ar ei ochr – fel yn y diagram – dyma’r ymatebion twf sy’n digwydd.

Mewn gwreiddyn llorweddol, mae'r ochr isaf yn cynnwys mwy o awcsin ac yn tyfu llai, gan achosi i'r gwreiddyn blygu i gyfeiriad grym disgyrchiant.

Mewn gwreiddyn wedi’i osod yn llorweddol, mae’r ochr isaf yn cynnwys mwy o awcsin ac mae’n tyfu llai, gan achosi i’r gwreiddyn blygu i gyfeiriad grym disgyrchiant.

Mewn coesyn wedi’i osod yn llorweddol, mae’r ochr isaf yn cynnwys mwy o awcsin ac mae’n tyfu mwy, gan achosi i’r coesyn blygu i fyny yn erbyn grym disgyrchiant.