HomeostasisFasogyfyngiad, fasoymlediad, crynu a chwysu
Mae angen cadw’r amodau y tu mewn i’n corff yn gyson, ee mae lefel y siwgr yn y gwaed a’r tymheredd yn cael eu rheoleiddio’n ofalus. Mae ffordd o fyw yn gallu effeithio ar yr homeostasis hwn.
Ymateb i fod yn rhy oer yw fasogyfyngiad. Mae’r broses yn cynnwys culhau pibellau gwaed wrth arwyneb y croen i leihau colledion gwres drwy arwyneb y croen.
Ymateb i fod yn rhy boeth fasoymlediad. Mae’r broses yn cynnwys lledu pibellau gwaed wrth arwyneb y croen i gynyddu colledion gwres drwy arwyneb y croen.
Mae’r tabl hwn yn crynhoi’r ddwy broses.
Rhy oer
Rhy boeth
Proses
Fasogyfyngu
Fasoymledu
Rhydwelïau
Yn culhau
Yn ymledu
Llif gwaed yng nghapilarïau’r croen
Yn lleihau
Yn cynyddu
Colli gwres o’r croen
Yn lleihau
Yn cynyddu
Proses
Rhy oer
Fasogyfyngu
Rhy boeth
Fasoymledu
Rhydwelïau
Rhy oer
Yn culhau
Rhy boeth
Yn ymledu
Llif gwaed yng nghapilarïau’r croen
Rhy oer
Yn lleihau
Rhy boeth
Yn cynyddu
Colli gwres o’r croen
Rhy oer
Yn lleihau
Rhy boeth
Yn cynyddu
Pan rwyt ti’n oer, efallai y byddi di’n dechrau crynu. Mae crynu yn cael ei achosi gan gyhyrau sy’n cyfangu’n anwirfoddol. Er mwyn i gyhyr gyfangu, mae angen egni o resbiradaethAdwaith cemegol sy’n digwydd mewn celloedd byw, gan ddefnyddio glwcos ac ocsigen i ryddhau'r egni sydd ei angen ar organebau i fyw. Carbon deuocsid a dŵr yw sgil gynhyrchion resbiradaeth. sy’n rhyddhau gwres. Mae’r gwres yn cael ei ddefnyddio i gynhesu’r corff.
Pan rwyt ti’n rhy boeth, byddi di'n chwysu. Mae chwys yn cael ei gynhyrchu gan y chwarennau chwys ac mae’n teithio i fyny’r ddwythell chwys ac allan o’r mandwll chwys i arwyneb y corff. Yma bydd y dŵr yn y chwys yn anweddu, gan gymryd gwres o’r corff gydag ef. Mae eich corff yn defnyddio’r mecanwaith hwn i oeri.