HomeostasisRheoli tymheredd

Mae angen cadw’r amodau y tu mewn i’n corff yn gyson, ee mae lefel y siwgr yn y gwaed a’r tymheredd yn cael eu rheoleiddio’n ofalus. Mae ffordd o fyw yn gallu effeithio ar yr homeostasis hwn.

Part ofBiolegAmrywiad, homeostasis a micro-organebau

Rheoli tymheredd

Y croen

Mae gan y corff lawer o ffurfiadau sy’n caniatáu iddo weithio’n dda fel organ sy’n gallu rheoleiddio tymheredd y corff. Mae hi’n bwysig cadw tymheredd y corff ar 37°C oherwydd dyma'r tymheredd lle mae y corff yn gweithio orau.

Mae’r diagram hwn yn dangos y croen.

Trawstoriad o'r croen dynol, wedi'i labelu.

Mae’r blew ar y croen yn helpu i reoli tymheredd y corff. Maen nhw’n gorwedd yn wastad pan fyddwn yn gynnes, ac yn codi pan fyddwn yn oer.

Pan mae hi’n rhy gynnes:

Diagram yn dangos sut mae blew'r croen yn gorwedd yn fflat pan rydyn ni'n boeth.
  • mae ’r blewyn yn llaesu ac mae’r blew yn gostwng
  • caiff haen ynysol fychan o aer ei dal uwchben y croen
  • mae mwy o wres yn cael ei golli i’r amgylchedd

Pan mae hi'n rhy oer:

Diagram yn dangos sut mae blew'r croen yn sefyll i fyny pan rydyn ni'n oer.
  • mae cyhyryn sythu'r blewyn yn cyfangu ac mae’r blew yn codi
  • caiff haen ynysol mwy trwchus ei dal uwchben y croen
  • mae’r aer yn y croen rhag colledion gwres