Mae angen cadw’r amodau y tu mewn i’n corff yn gyson, ee mae lefel y siwgr yn y gwaed a’r tymheredd yn cael eu rheoleiddio’n ofalus. Mae ffordd o fyw yn gallu effeithio ar yr homeostasis hwn.
Mae rheolaeth homeostatig yn cael ei chyflawni trwy ddefnyddio mecanwaith adborth negyddolMecanwaith i ostwng lefelau rhywbeth sydd wedi codi, ac i godi lefelau rhywbeth sydd wedi gostwng.:
os ydy lefel rhywbeth yn codi, mae systemau rheoli yn ei leihau eto
os ydy lefel rhywbeth yn disgyn, mae systemau rheoli yn ei godi eto
Rheoli glwcos yn y gwaed
Mae rheoli lefel glwcos yn y gwaed yn enghraifft o adborth negatif, fel sydd wedi’i ddangos isod.
Figure caption,
Ar ôl pryd o fwyd, bydd lefel siwgr yn y gwaed yn cynyddu yn uwch na’r lefelau normal
Figure caption,
Ar ôl ymarfer corff, bydd lefel siwgr yn y gwaed yn gostwng yn is na’r lefelau normal