MapiauCyfeiriannau

Mae mapiau a lluniadau wrth raddfa’n ffurfio rhan hanfodol o’n bywyd bob dydd. Mae lluniadau wrth raddfa’n ddefnyddiol mewn gyrfaoedd megis pensaernïaeth. Rhaid i ni ddeall cyfeiriannau hefyd.

Part ofMathemateg RhifeddGeometreg a Mesur

Cyfeiriannau

Mae cyfeiriannau’n ffordd effeithiol o ddisgrifio cyfeiriad. Mae angen i ti fod yn ymwybodol o rai rheolau sy’n ymwneud â chyfeiriannau er mwyn gallu eu defnyddio’n effeithiol:

  • mae cyfeiriannau bob amser yn cael eu mesur yn glocwedd o’r gogledd
  • mae tri rhif mewn cyfeiriannau bob amser, ac mae’r rhifau hynny’n disgrifio’r ongl o’r gogledd
Onglydd â llinell A yn marcio 0 gradd a llinell B yn marcio 135 gradd

I ganfod cyfeiriant B o A:

  • rho dy onglydd dros linell y gogledd gyda 0° ar y top
  • rho’r ateb fel cyfeiriant tri ffigur

Cyfeiriant B o A yw 135°.

Enghreifftiau

I ddisgrifio’r cyfeiriad hwn:

Llinell wedi'i marcio fel G â llinell yn dangos cyfeiriad teithio fel 125 gradd o N

Bydden ni’n defnyddio cyfeiriant o 125°. Cawn hyn trwy osod yr onglydd fel bod y llinell 0 yn pwyntio tuag at y gogledd ac yna mesur yr ongl o’r gogledd i gyfeiriad y teithio.

3 ongl â chyfeiriant 60 gradd, 240 gradd a 330 gradd

Gallwn ddisgrifio’r tri chyfeiriad hyn trwy ddefnyddio’r cyfeiriannau sydd o dan bob un. Sylwa’n arbennig ar y diagram cyntaf – noda fod yr ongl yn 60° ond y cyfeiriant yn 060°.

Mae cyfeiriannau bob amser yn dri ffigur, a phob amser yn cael eu mesur yn glocwedd o’r gogledd.

Question

Beth yw cyfeiriant A o B?

Dwy linell ar ongl B, un wedi'i marcio fel G ac un wedi'i marcio fel A