MapiauLluniadau wrth raddfa

Mae mapiau a lluniadau wrth raddfa’n ffurfio rhan hanfodol o’n bywyd bob dydd. Mae lluniadau wrth raddfa’n ddefnyddiol mewn gyrfaoedd megis pensaernïaeth. Rhaid i ni ddeall cyfeiriannau hefyd.

Part ofMathemateg RhifeddGeometreg a Mesur

Lluniadau wrth raddfa

Mae lluniadau wrth raddfa’n cael eu defnyddio i gynllunio amrywiaeth eang o wahanol brojectau. Mae gerddi, ceginau a hyd yn oed llongau gofod i gyd wedi cael eu hadeiladu trwy ddilyn lluniad wrth raddfa.

Edrycha ar y lluniad wrth raddfa hwn:

Cynllun llawr tŷ yn mesur 8.3 x 10.9

Mae’n gynllun ar gyfer byngalo. Dylet sylwi bod y dimensiynau ar gyfer yr ystafelloedd mewn milimetrau. Mae hyn yn gyffredin yn y byd adeiladu gan fod manylder yn bwysig iawn. Mae’r dimensiynau ar gyfer y tu allan mewn metrau.

Mae tri math o gwestiwn y dylet eu hystyried wrth astudio lluniadau wrth raddfa:

  • mae’r math cyntaf yn ymwneud â chyfrifo ffactor graddfa’r lluniad, hynny yw, pa label graddfa ddylai fod ar y diagram
  • byddai’r ail fath o gwestiwn yn gofyn i ti gyfrifo pa mor fawr yw gwrthrych ar gynllun mewn bywyd go iawn, gan ddefnyddio mesuriadau a graddfa benodol
  • yn olaf, efallai y bydd gofyn i ti gyflwyno lluniad wrth raddfa trwy ddefnyddio ffactor graddfa a mesuriadau penodol

Question

Mae Ben yn cynhyrchu lluniad wrth raddfa o bwll nofio mae’n bwriadu ei adeiladu. Dimensiynau’r pwll yw 2 m wrth 6 m. Pan fo’n mesur y lluniad ar ei gynllun, mae’n gweld ei fod yn 8 cm wrth 24 cm. Pa raddfa ddylai ef ei chynnwys ar ei gynllun?

Pwll nofio petryal

Question

Mae James yn defnyddio teclyn ar y we i ddylunio ei barc sglefrfyrddio delfrydol. Y raddfa ar y dyluniad yw 1:150. Mae James yn mesur bod dimensiynau’r lluniad yn 10 cm wrth 13 cm. Pa faint fyddai ei barc sglefrfyrddio mewn gwirionedd? Rho dy ateb mewn metrau.

Lluniad isometrig o barc sglefrio