Mae mapiau a lluniadau wrth raddfa’n ffurfio rhan hanfodol o’n bywyd bob dydd. Mae lluniadau wrth raddfa’n ddefnyddiol mewn gyrfaoedd megis pensaernïaeth. Rhaid i ni ddeall cyfeiriannau hefyd.
Rhoddir rhai graddfeydd ar ffurf cymarebau ac maen nhw’n cael eu dangos fel hyn 1:500. Mae hyn yn golygu bod pob centimetr sy’n cael ei fesur yn hafal i 500 cm mewn bywyd go iawn. Byddai graddfa o 1:20 000 yn golygu bod 1 cm yn hafal i 200 m mewn gwirionedd.
Question
Beth yw’r pellter rhwng A a B mewn metrau, gan ddefnyddio’r map hwn?
Mae 9 cm rhwng pwyntiau A a B. Felly rhaid i ni luosi 9 â 18,000 i gael 162,000 cm. Gan fod y cwestiwn yn gofyn am yr ateb mewn metrau, rhaid i ni nawr rannu â 100. Yr ateb felly yw 1,620 m.