Trigonometreg – Canolradd ac UwchCyfrifiadau trigonometrig

Mae perthnasau trigonometrig yn bwysig iawn yn y diwydiant adeiladu a chynllunio ac yn caniatáu cyfrifo hydoedd ac onglau anhysbys yn drachywir.

Part ofMathemateg RhifeddGeometreg a Mesur

Cyfrifiadau trigonometrig

Enghraifft 1

Cyfrifa \({x}\) yn y diagram canlynol i un lle degol.

Dau driongl ongl sgwâr, ABC a BCD, wedi'u trefnu un ar ben y llall ar hyd yr ochr hir maen nhw'n rhannu BC. Mae AC yn 5.8 cm, mae ongl ACB yn 41 gradd. Mae BD â label x, mae ongl CBD yn 32 gradd

Datrysiad

Edrycha ar y triongl uchaf yn gyntaf (ABC):

\({cos~41°}~=~\frac{BC}{5.8}\)

\({5.8~cos~41°}~=~{BC}\)

BC = 4.377315565 cm = 4.38 cm (dau le degol).

Yn awr edrycha ar y triongl BCD (gan weithio ar ddau le degol i roi ateb i un lle degol):

\({cos~32°}~=~\frac{4.38}{x}\)

\({x~cos~32°}~=~{4.38}\)

\({x}~=~\frac{4.38}{cos~32°}\)

\({x}\) = 5.164801407 cm = 5.2 cm (un lle degol).

Enghraifft 2

Cyfrifa ongl ADB yn y diagram canlynol (i un lle degol).

Triongl ongl sgwâr ACD. Ar ochr AC mae yna bwynt B 5.3 cm o bwynt A. Mae pwynt B wedi cysylltu â phwynt D. Mae ochr CD yn 14.7 cm. Mae ongl BDC yn 46 gradd

Edrycha ar y triongl isaf yn gyntaf (BCD):

\({tan~46°}~=~\frac{BC}{14.7}\)

\({14.7~tan~46°}~=~{BC}\)

BC = 15.22229561 cm = 15.22 cm (dau le degol).

Yn awr edrycha ar y triongl ACD (gan weithio ar ddau le degol i roi ateb i un lle degol):

AC = 5.3 + 15.22 = 20.52 cm

\({tan~ADC}~=~\frac{20.52}{14.7}\)

Defnyddia tan-1 ar gyfrifiannell i gael:

ADC = 54.38°

Yn awr i gael ongl ADB:

ADB = ADC − BDC

ADB = 54.38° − 46° = 8.38° = 8.4° (un lle degol).