Unwaith rwyt ti'n hapus yn defnyddio'r perthnasau trigonometrig o dudalennau cynharach y ganllaw hon, mae'n bwysig dy fod yn ymarfer eu defnyddio. Yn dy arholiad, bydd disgwyl i ti ddefnyddio dy wybodaeth mewn amrywiaeth o gyd-destunau gan gynnwys siapiau 3D a chyfeiriannau.
Question
Darganfydda'r ongl yn B.
Oherwydd ein bod yn gwybod hyd yr ochrau cyfagos a chyferbyn, mae angen i ni ddefnyddio tan i gyfrifo'r ongl sydd ar goll.
\({tan~θ} = \frac {cyferbyn} {cyfagos}\)
Felly \({tan~θ} = \frac {4} {3}\)
Gan ddefnyddio gwrthdro tan (tan-1 ar gyfrifiannell) rydyn ni'n dod o hyd i θ= 53.13° (i ddau le degol).
Question
Mae Tim yn cerdded 5 m i'r gogledd yna 3 m i'r dwyrain. Beth yw ei gyfeiriant o’r man cychwyn?
Os byddwn ni'n dilyn llwybr Tim, mae'n dilyn dwy ochr triongl â'r hypotenws yw'r ochr sydd ar goll:
Oherwydd ein bod yn gwybod hyd yr ochrau cyfagos a chyferbyn, mae angen i ni ddefnyddio tan i gyfrifo'r ongl sydd ar goll.
\({tan~θ} = \frac {cyferbyn} {cyfagos}\)
Felly \({tan~θ} = \frac {3} {5}\)
Gan ddefnyddio gwrthdro tan (tan-1 ar gyfrifiannell) rydyn ni'n dod o hyd i θ = 31° (i'r radd agosaf).
Felly 031° yw'r cyfeiriant (gan gofio bod cyfeiriannau bob amser yn 3 ffigwr).