Gallwn ni ddefnyddio unfathiannau trigonometrig i gyfrifo onglau yn ogystal â hydoedd ochrau. Er mwyn cyfrifo onglau mae'n rhaid i ni wybod dwy ochr y triongl ongl sgwâr. Edrycha ar y triongl hwn:
Rydyn ni eisiau gwybod ongl C. Edrycha ar yr hafaliad cos:
\({cos~θ} = \frac {cyferbyn} {hypotenws}\)
Nid ydyn ni'n gwybod θ, ond rydyn ni'n gwybod \({cos~θ} = \frac {5} {7}\)
Gallwn ni ddefnyddio'r ffwythiant gwrthdro cos ar gyfrifiannell i weithio allan beth yw θ os ydyn ni'n gwybod cos θ.
Defnyddia'r botwm cos-1 (trwy bwyso SHIFT yna cos) ar y cyfrifiannell, yna (5 ÷ 7) ac yna pwysa =
Dylet ti gael yr ateb 44.42° (i ddau le degol).
Question
Darganfydda'r ongl yn Z.
Oherwydd ein bod yn gwybod beth yw hyd yr hypotenws a'r ochr gyferbyn, mae angen i ni ddefnyddio sin.
\({sin~θ} = \frac {cyferbyn} {hypotenws}\)
Felly, trwy amnewid, \({sin~θ} = \frac {5} {8}\)
Mae angen i ni ddefnyddio'r ffwythiant gwrthdro sin ar y cyfrifiannell i weithio allan beth yw θ.
Mae defnyddio'r botwm sin-1 (trwy bwyso SHIFT yna sin) ar y cyfrifiannell yna (5 ÷ 8) yn rhoi 38.68° i ni (i ddau le degol).