Y system cylchrediad gwaed mewn bodau dynolPibellau gwaed
Mae’n hanfodol i iechyd bod y system cylchrediad yn gweithio’n iawn. Mae gwaed yn cludo sylweddau o gwmpas y corff ac yn cael gwared ar wastraff gwenwynig. Mae hefyd yn amddiffyn rhag clefydau.
Cludo gwaed i ffwrdd o’r galon (wedi ei ocsigenu bob tro heblaw am y rhydweli ysgyfeiniolY rhydweli sy’n cludo gwaed dadocsigenedig o’r galon i’r ysgyfaint. sy’n mynd o’r galon i’r ysgyfaint).
Muriau cyhyrog trwchus.
Sianeli bach ar gyfer y gwaed (lwmen mewnol).
Cynnwys gwaed dan bwysedd uchel.
Mae rhydwelïau yn cludo gwaed i ffwrdd o’r galon
Gwythiennau
Cludo gwaed i’r galon (heb ei ocsigenu bob tro heblaw am y gwythïen ysgyfeiniolY wythïen sy’n cludo gwaed ocsigenedig i’r galon o’r ysgyfaint. sy’n mynd o’r ysgyfaint i’r galon).
Muriau tenau.
Sianeli mwy ar gyfer y gwaed (lwmen mewnol).
Cynnwys gwaed dan bwysedd isel.
Falfiau i atal gwaed rhag llifo yn ôl.
Figure caption,
Trawstoriad drwy wythïen
Capilarïau
I’w cael yn agos at bob cell fyw yn y corff.
Microsgopig – muriau â thrwch un gell, mae hyn yn caniatáu trylediad sylweddau i mewn i’r celloedd o’r capilarïau ac allan o’r celloedd i mewn i’r capilarïau.
Pwysedd gwaed isel iawn.
Figure caption,
Gwaed yn teithio drwy’r capilarïau
Adeiledd pibellau gwaed
Mae hi’n hawdd cymharu adeiledd y pibellau gwaed wrth edrych ar y trawstoriadau ohonynt (ddim i raddfa).