Y system cylchrediad gwaed mewn bodau dynolPlatennau

Mae’n hanfodol i iechyd bod y system cylchrediad yn gweithio’n iawn. Mae gwaed yn cludo sylweddau o gwmpas y corff ac yn cael gwared ar wastraff gwenwynig. Mae hefyd yn amddiffyn rhag clefydau.

Part ofBiolegCelloedd, systemau organau ac ecosystemau

Platennau

Ceulo’r gwaed

Os ydy’r croen yn cael ei dorri, mae’n rhaid cau’r clwyf i atal colli gwaed ac i gyrraedd y corff. Bydd crachen yn ffurfio er mwyn cyflawni hynny.

Mae gwaed yn cynnwys darnau bach iawn o gelloedd, sef y platennau. Mae’r platennau hyn yn cyfrannu at geulo’r gwaed a ffurfio crachen.

Ffurfio crachen

Pan mae croen yn cael ei glwyfo, mae platennau yn gallu:

  • rhyddhau cemegau sy’n achosi i broteinau hydawdd ffurfio rhwyll o ffibrau ar draws y clwyf
  • glynu gyda’i gilydd i ffurfio clystyrau sy’n cael eu dal yn y rhwyll

Mae celloedd coch y gwaed hefyd yn cael eu dal yn y rhwyll ffibrin, gan greu tolchen. Mae hyn yn datblygu yn grachen, sy’n amddiffyn y clwyf wrth iddo wella.

Mae crachen yn ffurfio pan mae platennau yn glynu yn y rhwyll ffibrin

Plasma

Hylif lliw gwellt yw , a dyma beth yw ychydig dros hanner cyfaint gwaed. Mae gan y plasma lawer o swyddogaethau:

  • cludo carbon deuocsid o gelloedd sy’n resbiradu i’r ysgyfaint
  • cludo bwyd wedi’i dreulio o’r coluddyn bach i gelloedd sy’n resbiradu
  • cludo wrea o’r iau i’r arennau i’w ysgarthu
  • dosbarthu gwres o gwmpas y corff i gyd
  • cludo hormonau o'r chwarennau lle maen nhw'n cael eu gwneud i’r organau targed