Y galon
Organ cyhyrog ydy’r calonOrgan cyhyrog sy’n pwmpio gwaed o amgylch y corff. a’i gwaith ydy pwmpio gwaed. Mae cyhyr cardiaidd y galon yn cyfangu i bwmpio’r gwaed o’r atria i’r fentriglau ac o’r fentriglau i’r rhydwelïau. Mae angen egni o resbiradaeth er mwyn i gyhyr cardiaidd y galon ddal i gyfangu, ac mae’r rhydwelïau coronaidd yn cyflenwi glwcos ac ocsigen iddo er mwyn gwneud hyn.
Mae’r ochr dde yn pwmpio gwaed drwy’r cylched ysgyfeiniolY rhan o’r system gylchredol yn ochr dde y galon, yr ysgyfaint, a’r pibellau gwaed sy’n eu cysylltu gyda’i gilydd., ac mae’r ochr chwith yn pwmpio gwaed drwy’r cylched systemigRhan o’r system gylchredol sy’n cynnwys ochr chwith y galon, gweddill y corff heblaw’r ysgyfaint, a’r pibellau gwaed sy’n eu cysylltu gyda’i gilydd..
Dau bwmp ar wahân
Yn gyffredinol, mae gwaed yn llifo i mewn i un ochr o’r galon o gwythïenPibell waed gyda falfiau sy’n cludo gwaed i’r galon., yn mynd i mewn i atriwmYn y galon, yr atria (lluosog) yw’r siambrau uchaf sy’n casglu gwaed sy’n dychwelyd o’r corff (atriwm de) neu o’r ysgyfaint (atriwm chwith)., yna i fentriglSiambr isaf y galon sy’n derbyn gwaed o’r atriwm ac yn ei bwmpio i’r rhydwelïau., ac allan drwyrhydweliPibell waed sy’n cludo gwaed o’r galon.. Mae gwahanfur yn gwahanu’r ochr dde a’r ochr chwith.
Mae’r gwaed ar ochr dde’r galon yn ddadocsigenedig. Mae wedi bod o gwmpas y corff gan ddefnyddio celloedd coch y gwaed i gludo ocsigen i’w gyflenwi i’r celloedd. Erbyn hyn, mae’r ocsigen wedi’i ollwng ac mae’r gwaed yn mynd i mewn i’r galon drwy’r brif wythïen, y fena cafa i mewn i’r atriwm de.
Mae’r atriwm de yn cyfangu ac yn gwthio’r gwaed i mewn i’r fentrigl de sydd yn ei dro’n cyfangu gan wthio’r gwaed allan o’r rhydweli ysgyfeiniol i’r ysgyfaint i gael ei ocsigenu.
Mae gwaed nawr yn dychwelyd i ochr chwith y galon drwy’r wythïen ysgyfeiniol. Mae’n mynd i mewn i’r atriwm chwith sy’n cyfangu i wthio’r gwaed i mewn i’r fentrigl chwith. Mae gan y fentrigl chwith fur cyhyrog trwchus i ddarparu digon o bwysedd i bwmpio’r gwaed ocsigenedig i fannau pellaf y corff.
Mae gwaed yn gadael y galon drwy’r brif rydweli, yr aorta.
Mae’r galon yn cynnwys falfiau sy’n cau i atal ôl-lifiad o’r gwaed:
- mae gan yr ochr dde falf deirlen (falf â thri fflap)
- mae gan yr ochr chwith falf ddwylen (falf â dau fflap)
Mae gan y ddwy ochr falfiau cilgant – ar y ffordd i mewn i’r rhydweli ysgyfeiniol a’r aorta.
Curiad calon
Dyma sut mae’r galon yn gweithredu.
Image caption, Swyddogaethau’r galon
Image caption, Swyddogaethau’r galon
Image caption, Swyddogaethau’r galon
Image caption, Swyddogaethau’r galon
1 of 4
Mae’r galon yn pwmpio gwaed mewn dwy ffordd