Effaith y Rhyfel Byd CyntafPutsch Munich 1923

O ganlyniad i golli’r Rhyfel Byd Cyntaf, roedd llywodraeth newydd yr Almaen, Gweriniaeth Weimar, yn wynebu cyfres o heriau economaidd, gwleidyddol, cymdeithasol a rhyngwladol. Pa sialensiau wnaeth wynebu Gweriniaeth Weimar rhwng 1919 a 1923?

Part ofHanesYr Almaen mewn cyfnod o newid, 1919-1939

Putsch Munich 1923

Ar noson 8 Tachwedd 1923, rhuthrodd Hitler a 600 o gyrchfilwyr i mewn i gyfarfod yr oedd Kahr a Lossow’n ei gynnal yn y Neuadd Gwrw leol. Gan chwifio gwn atynt, gorfododd Hitler nhw i gytuno i wrthryfela – ac wedyn gadawodd iddynt fynd adref. Cymerodd yr SA reolaeth dros bencadlys y fyddin a swyddfeydd y papur newydd lleol.

Drannoeth, 9 Tachwedd 1923, aeth Hitler a’i Natsïaid i mewn i Munich ar yr hyn roeddent wedi credu fyddai’n orymdaith fuddugoliaethus i gipio grym. Ond roedd Kahr wedi galw heddlu a milwyr atgyfnerthol i mewn. Cafwyd sgarmes fer lle lladdodd yr heddlu 16 o Natsïaid. Dihangodd Hitler, ond cafodd ei arestio ddeuddydd yn ddiweddarach.

Pam y rhoddodd Hitler gynnig ar Putsch ar Munich yn 1923?

  • Erbyn 1923, roedd gan y blaid Natsïaidd 55,000 o aelodau ac roedd yn gryfach nag erioed o’r blaen.
  • Roedd Gweriniaeth Weimar mewn argyfwng, nid oedd ganddi fawr o gefnogaeth yn y wlad ac ar fin cwympo.
  • Ym Medi 1923, roedd llywodraeth Weimar wedi rhoi terfyn ar y streic gyffredinol, ac roedd pob cenedlaetholwr Almaenig yn gandryll gyda’r llywodraeth.
  • Roedd Hitler yn meddwl y câi help gan genedlaetholwyr pwysig yn Bavaria.
  • Roedd gan Hitler fyddin enfawr o gyrchfilwyr, ond gwyddai y byddai’n colli rheolaeth arnynt pe na bai’n rhoi rhywbeth iddynt ei wneud.
  • Roedd Hitler yn gobeithio copïo Mussolini – arweinydd ffasgaidd yr Eidal – a oedd wedi dod i rym yn yr Eidal yn 1922 trwy orymdeithio i mewn i Rufain.

Canlyniadau Putsch Munich

Methiant oedd Putsch Munich. O ganlyniad:

  1. Gwaharddwyd y blaid Natsïaidd, a rhwystrwyd Hitler rhag siarad yn gyhoeddus tan 1927.
  2. Aeth Hitler i’r carchar, lle ysgrifennodd Mein Kampf. Darllenwyd hwn gan filiynau o Almaenwyr, a daeth syniadau Hitler yn hysbys iawn.
  3. Penderfynodd Hitler na fyddai fyth yn dod i rym drwy chwyldro. Sylweddolodd y byddai’n rhaid iddo ddefnyddio dulliau cyfansoddiadol, felly trefnodd:
  4. Ieuenctid Hitler
  5. ymgyrchoedd propaganda
  6. uno â phleidiau adain dde eraill
  7. canghennau lleol o’r blaid, a geisiodd ethol Natsïaid i’r Reichstag
  8. yr SS fel gwarchodwyr personol iddo, a sefydlwyd yn 1925

Y strategaeth hon o ennill grym yn gyfreithlon a ddaeth ag ef i rym yn y pen draw.