Gweriniaeth Weimar
Crëwyd Gweriniaeth Weimar ar adeg o ddryswch ac anhrefn wedi i’r Almaen golli’r Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd Berlin mewn aflonyddwch, felly fe wnaeth gwleidyddion gyfarfod yn nhref Weimar i greu cyfansoddiad newydd ar gyfer yr Almaen. Galwyd senedd yr Almaen yn Reichstag a'r blaid fwyafrifol oedd yn penodi'r Canghellor. Bob saith mlynedd, roedd Almaenwyr hefyd yn pleidleisio am ArlywyddCyfateb i Frenin/Frenhines ym Mhrydain.. Fredrich Ebert oedd yr Arlywydd rhwng 1918 a 1925 a Paul von Hindenburg rhwng 1925 a 1934.
Roedd yn ymddangos fel y ddemocratiaeth berffaith, ond roedd dau wendid mawr i’r cyfansoddiad – cynrychiolaeth gyfrannol ac Erthygl 48.
Cynrychiolaeth gyfrannol
Yn lle pleidleisio dros AS, fel a wneir ym Mhrydain, pleidleisiai Almaenwyr Weimar dros blaid. Wedyn byddai seddi’n cael eu dosbarthu i bob plaid yn y Reichstag i adlewyrchu (yn gyfrannol) union nifer y bobl oedd wedi pleidleisio drostynt. Roedd hyn yn swnio'n deg, ond mewn gwirionedd, arweiniodd at nifer o bleidiau yn ennill seddi a dim un blaid yn ddigon cryf i lywodraethu. Felly, roedd rhaid i'r llywodraeth fod yn glymblaid o bleidiau, ac roedd hi’n anodd iddyn nhw basio a chytuno ar ddeddfau oedd eu hangen ar yr Almaen. Dyma wendid mawr y Weriniaeth.
Erthygl 48
Mewn argyfwng, doedd dim angen cytundeb y Reichstag ar yr Arlywydd, ond gallai gyhoeddi archddyfarniadDeddf wedi’i phasio gan un gweinidog mewn senedd, heb gael ei chymeradwyo gan y mwyafrif yn y senedd.. Y broblem gyda hyn oedd nad oedd yna ddiffiniad o beth oedd argyfwng, ac yn y diwedd, trodd allan i fod yn ddrws cefn a ddefnyddiwyd gan Hitler i gipio grym yn gyfreithlon.
| Cyfansoddiad | Cryfder | Gwendid |
| Cynrychiolaeth gyfrannol | System bleidleisio seiliedig ar chwarae teg | Gwnâi hi’n haws ffurfio pleidiau llai, a gwnâi hynny hi’n anoddach felly ennill mwyafrif i ffurfio llywodraeth. Canlyniad hyn oedd llywodraethau clymblaid. |
| Erthygl 48 | Gellid gwneud penderfyniadau’n gyflym mewn argyfwng. | Nid oedd hyn yn ddemocrataidd oherwydd golygai y gallai'r Arlywydd anwybyddu’r gwleidyddion yn y Reichstag. Yn ddiweddarach, gwnaeth Hitler hynny i greu unbennaeth. |
| Llywodraethau clymblaid | Caniatáu i bleidiau gwleidyddol gwahanol ddweud eu dweud wrth redeg y wlad. | Ei gwneud hi'n anodd ffurfio llywodraeth barhaol gyda pholisïau clir. Treuliodd gwleidyddion amser yn trafod gyda phleidiau eraill yn hytrach na llywodraethu’r wlad. |
| Cyfansoddiad | Cynrychiolaeth gyfrannol |
|---|---|
| Cryfder | System bleidleisio seiliedig ar chwarae teg |
| Gwendid | Gwnâi hi’n haws ffurfio pleidiau llai, a gwnâi hynny hi’n anoddach felly ennill mwyafrif i ffurfio llywodraeth. Canlyniad hyn oedd llywodraethau clymblaid. |
| Cyfansoddiad | Erthygl 48 |
|---|---|
| Cryfder | Gellid gwneud penderfyniadau’n gyflym mewn argyfwng. |
| Gwendid | Nid oedd hyn yn ddemocrataidd oherwydd golygai y gallai'r Arlywydd anwybyddu’r gwleidyddion yn y Reichstag. Yn ddiweddarach, gwnaeth Hitler hynny i greu unbennaeth. |
| Cyfansoddiad | Llywodraethau clymblaid |
|---|---|
| Cryfder | Caniatáu i bleidiau gwleidyddol gwahanol ddweud eu dweud wrth redeg y wlad. |
| Gwendid | Ei gwneud hi'n anodd ffurfio llywodraeth barhaol gyda pholisïau clir. Treuliodd gwleidyddion amser yn trafod gyda phleidiau eraill yn hytrach na llywodraethu’r wlad. |