Effaith y Rhyfel Byd CyntafDiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf

O ganlyniad i golli’r Rhyfel Byd Cyntaf, roedd llywodraeth newydd yr Almaen, Gweriniaeth Weimar, yn wynebu cyfres o heriau economaidd, gwleidyddol, cymdeithasol a rhyngwladol. Pa sialensiau wnaeth wynebu Gweriniaeth Weimar rhwng 1919 a 1923?

Part ofHanesYr Almaen mewn cyfnod o newid, 1919-1939

Diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf

Teimlai llawer o bobl fod yr Almaen wedi cael bargen wael iawn yng Nghytundeb Versailles ac roedden nhw'n ddig wrth y llywodraeth am ei lofnodi a chytuno â’i amodau.

  • Derbyn cyfrifoldeb llawn am achosi'r rhyfel (erthygl 231), ac felly, y dinistr a'r golled yn sgil y rhyfel.
  • Talu iawndaliadau o £6,600 miliwn am y difrod a achoswyd, a rhoi pyllau glo ardal y Saar i Ffrainc fel iawndal am ddistrywio pyllau glo gogledd Ffrainc.
  • Colli tir. Roedd rhaid iddyn nhw roi Alsace-Lorraine i Ffrainc, a chrëwyd coridor i rwystro Gwlad Pwyl rhag bod yn wlad dirgaeëdig ond yn gwahanu Dwyrain Prwsia oddi wrth weddill yr Almaen. Fe gollon nhw reolaeth o'r holl drefedigaethau tramor, a chafodd yr Almaen ei gwahardd rhag uno gydag Awstria.
  • Cyfyngu ei phŵer milwrol, gyda byddin o ddim mwy na 100,000 o aelodau a nifer fach o longau yn y Llynges.