Loci croestoriadol
Gallai problemau sy’n ymwneud â loci olygu bod yn rhaid i ti wneud nifer o luniadau a nodi pwynt neu ardal sy’n bodloni’r holl amodau.
Enghraifft
Mae’r diagram yn dangos braslun o ardd sy’n mesur 6 m wrth 7 m.
Mae gwely blodau’n cael ei blannu. Rhaid iddo fod yn agosach at y tap na’r trydan. Rhaid iddo hefyd fod yn llai na 3 m oddi wrth y tap fel y gall gael ei ddyfrio’n hawdd. Noda’r ardal lle gall y gwely blodau gael ei blannu.
I wneud yn siŵr ei fod yn agosach at y tap na’r trydan, rhaid i ni haneru’r llinell sy’n mynd o’r tap i’r trydan.
Gallwn anwybyddu’r ardal sy’n agosach at y pwynt trydan. Yna rhaid i ni lunio loci’r pwyntiau sydd 3 cm oddi wrth y tap.
Gallwn anwybyddu’r ardal sy’n fwy na 3 cm oddi wrth y tap. Mae hyn yn gadael yr ardal sydd wedi ei labelu fel y man lle gellir plannu’r gwely blodau.
Question
Mae cwch yn paratoi i angori. I aros yn ddiogel, rhaid i’r cwch fod yn agosach at y traeth na’r corstir, a dylai fod o leiaf 1.5 milltir oddi wrth y corstir. Noda ym mha ardal y dylai’r cwch angori. Mae’r braslun wedi ei lunio gan ddefnyddio graddfa o 1 cm = 1 milltir.
Llunia linell baralel sydd 1.5 cm oddi wrth y llinell EF. Mae pob pwynt i’r dde o’r llinell hon o leiaf 1.5 milltir o’r corstir.
Hanera’r ongl DEF. Mae pob pwynt uwchben y llinell hon yn agosach at y traeth na’r corstir.
Tywylla ardal y pwyntiau sy’n bodloni’r ddau faen prawf i nodi lle dylai’r cwch angori.