Loci a llunio loci
Locws yw llwybr sy’n cael ei ffurfio gan bwynt sy’n symud yn ôl rheol benodol. Y lluosog yw loci.
Mae’r rhedwr yn dilyn llwybr. Mae’r llwybr hwn yn locws.
Locws o amgylch pwynt
Mae bysedd y cloc yn symud o amgylch y cloc ac yn creu locws.
Mae blaen y ddau fys bob amser yr un pellter – yn gytbell – o ganol y cloc.
Cylch yw’r locws mae’r bysedd yn ei greu.
Rhaid i ti ddefnyddio pâr o gwmpasau i greu locws o amgylch pwynt.
Locws o linell
Nid oes yn rhaid i locws fod yn llinell – gall hefyd fod yn ardal.
Enghraifft
Mae gwely blodau’n rhedeg ar hyd y glaswellt rhwng A a B. Mae ymyl y gwely blodau 1 m oddi wrth y llinell AB. Sut byddet ti’n llunio diagram cywir i ddangos y gwely blodau, gan ddefnyddio graddfa o 1 cm : 1 m?
Image caption, Llunia linell yn baralel i AB sydd 1 cm oddi wrth AB. Tywylla’r rhan sydd rhwng y llinell hon a’r llinell AB
Image caption, Ymyl y gwely blodau yw’r locws o linell AB, gan ei fod ar bellter penodol oddi wrth y llinell
1 of 2
Question
Rhaid i ymwelwyr sefyll o leiaf 2 m oddi wrth y waliau lle mae’r mwncïod yn byw mewn sŵ. Sut byddet ti’n llunio diagram cywir i ddangos lle na ddylai’r ymwelwyr sefyll, gan ddefnyddio graddfa o 1 cm : 1 m?
Llunia bedair llinell yn baralel i bob un o ochrau’r petryal, 2 cm i ffwrdd. Defnyddia gwmpas i lunio corneli crwm yn D, E, F a G.
Mae llinell syth y locws yn baralel i ymylon y petryal, gan eu bod ar bellter penodol oddi wrth yr ymylon. Wrth bob un o’r corneli, mae’r locws yn chwarter cylch wedi ei lunio o’r pwyntiau sefydlog D, E, F a G.
Ni ddylai ymwelwyr sefyll yn y rhan rhwng y ddau betryal. Tywylla’r rhan hon.
Er mwyn llunio locws o amgylch pwynt, yn gyntaf bydd angen i ti lunio’r llinell ac yna tywyllu’r ardal briodol, gan ddibynnu ar y cwestiwn.
Question
Mae ci ar dennyn sy’n mesur 3 m. Mae’r pen arall wedi ei glymu wrth bostyn yng nghanol yr ardd.
Gan ddefnyddio graddfa o 1 cm = 1 m, tywylla’r ardal y gall y ci ei chyrraedd.
Gan osod dy gwmpas i 3 cm, llunia gylch gyda’r postyn yn y canol.
Tywylla’r ardal y tu mewn i’r cylch, gan mai dyma’r ardal y bydd y ci’n gallu ei chyrraedd; ni fydd yn gallu cyrraedd unrhyw le y tu allan i’r cylch hwn.