Lluniadau rhwng pwyntiau a llinellau
Mae lluniadau yn ddiagramau cywir wedi eu llunio gan ddefnyddio pâr o gwmpasau a phren mesur.
Wrth lunio lluniadau, ni ddylet gael gwared â’r llinellau llunio.
Llunio’r perpendicwlar o bwynt at linell
Enghraifft
Image caption, Mae P yn bwynt uwchben llinell lorweddol. Cer ati i lunio’r perpendicwlar o bwynt P at y llinell
Image caption, Agora bâr o gwmpasau fel bod y pellter fymryn yn hirach na’r pellter o P at y llinell. Gosoda’r cwmpas ym mhwynt P a llunia ddwy arc, gan groesi’r llinell y naill ochr i P
Image caption, Gosoda bwynt y cwmpas yn E a llunia arc o dan y llinell. Gwna hyn eto o bwynt F heb newid lled dy gwmpas fel bod yr arcau’n croesi i greu pwynt G
Image caption, Gosoda bren mesur rhwng P a G. Defnyddia bren mesur i gysylltu pwynt P a’r llinell. Mae’r llinell ar ongl sgwâr i EF
1 of 4
Llunio’r perpendicwlar o bwynt ar linell
Enghraifft
Image caption, Mae Q yn bwynt ar linell. Cer ati i lunio perpendicwlar yn Q
Image caption, Gosoda bwynt y cwmpas yn Q. Llunia ddwy arc sy’n croesi’r llinell y naill ochr i Q
Image caption, Gosoda bwynt y cwmpas yn S a llunia arc o dan y llinell. Gwna’r un peth o bwynt T heb newid lled dy gwmpas, fel bod y ddwy arc yn croesi i greu pwynt V
Image caption, Defnyddia bren mesur i gysylltu pwynt Q, lle mae’r ddwy arc yn croesi, â V. Mae’r llinell QV ar ongl sgwâr i ST
1 of 4