Adweithiau dadleoli hydoddiannau
Bydd metel mwy adweithiol yn dadleoliCymryd lle sylwedd arall mewn adwaith cemegol. Er enghraifft, gall metel ddadleoli metel llai adweithiol o’i ocsid, gan dynnu’r ïonau ocsid o’r metel llai adweithiol a throi’n ocsid ei hun. metel llai adweithiol o hydoddiant o un o’i halwynau. Er enghraifft:
magnesiwm + copr(II) sylffad → copr + magnesiwm sylffad
Mg(s) + CuSO4(dyfr) → Cu(s) + MgSO4(dyfr)
Yn yr adwaith hwn, mae lliw glas y copr(II) sylffad yn pylu wrth iddo gael ei ddefnyddio (mae hydoddiant magnesiwm sylffad yn ddi-liw). Bydden ni hefyd yn gweld metel copr (solid coch/brown) yn ffurfio.
Mae adweithiau rhwng metelau a hydoddiannau o halwynau metel yn caniatáu i ni roi detholiad o fetelau mewn cyfres adweithedd. Gan ddefnyddio metelau J, K ac L:
| Metel J | Metel K | Metel L | |
| J sylffad | X | Dim adwaith i'w weld | Dim adwaith i'w weld |
| K sylffad | Dadleoli K | X | Dadleoli K |
| L sylffad | Dadleoli L | Dim adwaith i'w weld | X |
| J sylffad | |
|---|---|
| Metel J | X |
| Metel K | Dim adwaith i'w weld |
| Metel L | Dim adwaith i'w weld |
| K sylffad | |
|---|---|
| Metel J | Dadleoli K |
| Metel K | X |
| Metel L | Dadleoli K |
| L sylffad | |
|---|---|
| Metel J | Dadleoli L |
| Metel K | Dim adwaith i'w weld |
| Metel L | X |
Rydyn ni’n arsylwi’r dadleoliad wrth i liw’r metel newid a/neu wrth i liw’r hydoddiant newid.
- Mae metel J yn dadleoli K a hefyd L – felly mae’n rhaid mai hwn yw’r mwyaf adweithiol a’i fod ar frig y gyfres adweithedd hon.
- Dydy metel K ddim yn gallu dadleoli J nac L – felly mae’n rhaid mai hwn yw’r lleiaf adweithiol a’i fod ar waelod y gyfres adweithedd hon.
- Mae metel L yn dadleoli K ond yn methu dadleoli J – felly mae’n rhaid ei fod yn fwy adweithiol na K ond yn llai adweithiol na J, a’i fod rhwng y ddau yn y gyfres adweithedd hon.
Felly, y drefn yw: