Tystiolaeth o’r gyfres adweithedd
Mewn cyfres adweithedd, mae’r elfenSylwedd sydd wedi'i wneud o un math o atom yn unig. fwyaf adweithiol yn mynd ar y brig a’r elfen leiaf adweithiol ar y gwaelod. Mae metelau mwy adweithiol yn fwy tueddol o golli electronGronyn isatomig yw electron, sydd â gwefr negatif a'i fàs yn ddibwys o'i gymharu â phroton a niwtron. a ffurfio ïonGronyn sy’n cael ei wefru’n drydanol, sy’n cael ei ffurfio pan mae moleciwl neu atom yn ennill neu'n colli electron(au). positif.
Cyfres adweithedd metelau
Ffordd dda o gofio trefn cyfres adweithedd metelau yw drwy ddefnyddio llythyren gyntaf pob un i wneud brawddeg wirion. Er enghraifft: Pwy Sy’n Licio Coginio? Magi Ann Sy’n Hoffi Coginio Ag Afalau.
Drwy arsylwi sut mae’r elfennau hyn yn adweithio â dŵr, asidSylwedd cyrydol sydd â pH is na 7. Mae asidedd yn cael ei achosi gan grynodiad uchel o ïonau hydrogen. ac ager, gallwn ni eu rhoi nhw yn y gyfres hon.
Mae’r tablau’n dangos sut mae’r elfennau’n adweithio â dŵr ac asidau gwanedig:
| Elfen | Adwaith â dŵr |
| Potasiwm | Ffyrnig |
| Sodiwm | Cyflym iawn |
| Lithiwm | Cyflym |
| Calsiwm | Arafach |
| Elfen | Potasiwm |
|---|---|
| Adwaith â dŵr | Ffyrnig |
| Elfen | Sodiwm |
|---|---|
| Adwaith â dŵr | Cyflym iawn |
| Elfen | Lithiwm |
|---|---|
| Adwaith â dŵr | Cyflym |
| Elfen | Calsiwm |
|---|---|
| Adwaith â dŵr | Arafach |
| Elfen | Adwaith ag asidau gwanedig |
| Calsiwm | Cyflym iawn |
| Magnesiwm | Cyflym |
| Sinc | Arafach |
| Haearn | Arafach na sinc |
| Copr | Araf iawn |
| Arian | Prin ddim adwaith |
| Aur | Dim adwaith |
| Elfen | Calsiwm |
|---|---|
| Adwaith ag asidau gwanedig | Cyflym iawn |
| Elfen | Magnesiwm |
|---|---|
| Adwaith ag asidau gwanedig | Cyflym |
| Elfen | Sinc |
|---|---|
| Adwaith ag asidau gwanedig | Arafach |
| Elfen | Haearn |
|---|---|
| Adwaith ag asidau gwanedig | Arafach na sinc |
| Elfen | Copr |
|---|---|
| Adwaith ag asidau gwanedig | Araf iawn |
| Elfen | Arian |
|---|---|
| Adwaith ag asidau gwanedig | Prin ddim adwaith |
| Elfen | Aur |
|---|---|
| Adwaith ag asidau gwanedig | Dim adwaith |
I weld pa mor adweithiol yw metel ag asid, rhaid edrych ar gyflymder y swigod hydrogen sy'n cael eu cynhyrchu. Po gyflymaf y ffisian, yna'r mwyaf adweithiol yw'r metel.
Mae hi’n gallu bod yn anodd rhoi alwminiwm yn y lle cywir yn y gyfres adweithedd yn ystod yr arbrofion hyn. Mae hyn oherwydd bod ei haen amddiffynnol o alwminiwm ocsid yn gwneud iddo ymddangos yn llai adweithiol nag ydyw mewn gwirionedd. Ar ôl tynnu’r haen hon, mae’r arsylwadau’n fwy dibynadwy.
Anfetelau yn y gyfres adweithedd
Mae’n ddefnyddiol rhoi carbon a hydrogen yn y gyfres adweithedd oherwydd gallwn ni ddefnyddio’r elfennau hyn i echdynnu metelau.
Dyma’r gyfres adweithedd yn cynnwys carbon a hydrogen:
Gallwn ni dadleoliCymryd lle sylwedd arall mewn adwaith cemegol. Er enghraifft, gall metel ddadleoli metel llai adweithiol o’i ocsid, gan dynnu’r ïonau ocsid o’r metel llai adweithiol a throi’n ocsid ei hun. sinc a haearn o’u ocsidCyfansoddyn sy’n cynnwys ocsigen neu ïonau ocsid. gan ddefnyddio carbon, ond nid gan ddefnyddio hydrogen. Fodd bynnag, gallwn ni echdynnu copr gan ddefnyddio carbon neu hydrogen.