Electrolysis cyfansoddion ïonig tawdd
Dyma beth sy’n digwydd yn ystod electrolysisDefnyddio cerrynt trydanol i ddadelfennu (torri i lawr) cyfansoddyn..
- Mae ïonau â gwefr bositif yn symud at yr electrodDargludydd rydyn ni’n ei ddefnyddio i sefydlu cyswllt trydanol â chylched. Enw’r electrod sydd wedi’i gysylltu â therfynell negatif batri yw’r electrod negatif, neu’r catod. Enw’r electrod sydd wedi’i gysylltu â therfynell bositif batri yw’r electrod positif, neu’r anod. negatif (catodYr electrod negatif yn ystod electrolysis.). Maen nhw’n derbyn electronau ac yn cael eu rhydwythiadAdwaith lle mae sylwedd yn colli ocsigen neu’n ennill electronau..
- Mae ïonau â gwefr negatif yn symud at yr electrod positif (anodYr electrod positif yn ystod electrolysis.). Maen nhw’n colli electronau ac yn cael eu ocsidiadAdwaith lle mae sylwedd yn ennill ocsigen neu’n colli electronau..
- Enw’r sylwedd sy’n cael ei ddadelfennu yw’r electrolytSylwedd sy’n gallu dargludo cerrynt trydanol pan mae’n dawdd neu mewn hydoddiant., sy'n hylif neu hydoddiant sy’n cynnwys ïonau sy’n rhydd i symud.
Mae sylweddau ïonig yn cynnwys gronyn â gwefrGronyn, sef ïon neu electron fel arfer, sy’n cludo gwefr drydanol., sef ïonGronyn sy’n cael ei wefru’n drydanol, sy’n cael ei ffurfio pan mae moleciwl neu atom yn ennill neu'n colli electron(au).. Er enghraifft, mae plwm(II) bromid (PbBr2) yn cynnwys ïonau plwm â gwefr bositif (Pb2+) ac ïonau bromid â gwefr negatif (Br–).
Electrolysis yw’r broses lle rydyn ni’n dadelfennu (torri i lawr) sylweddau ïonig i ffurfio sylweddau symlach drwy yrru cerrynt trydanol drwyddyn nhw.
Llif electronGronyn isatomig yw electron, sydd â gwefr negatif a'i fàs yn ddibwys o'i gymharu â phroton a niwtron. neu ïonau yw trydan. Er mwyn i electrolysis weithio, rhaid i’r cyfansoddynSylwedd sy'n cael ei ffurfio gan uniad cemegol dwy neu ragor o elfennau drwy ffurfio bond neu fondiau. gynnwys ïonau. Dydy cyfansoddion cofalentMae sylwedd cofalent yn moleciwl sy’n cynnwys un neu fwy o fondiau cofalent (parau o electronau a rennir). ddim yn gallu gweithredu fel electrolytau oherwydd maen nhw wedi’u gwneud o atomMae pob elfen wedi'i gwneud o atomau. Mae atom wedi'i wneud o niwclews sy’n cynnwys protonau a niwtronau, wedi'i amgylchynu ag electronau. niwtral.
Rhaid i’r ïonau fod yn rhydd i symud, sy’n bosibl pan mae sylwedd ïonig wedi’i hydoddiPan mae rhywbeth yn cael ei ymddatod mewn hylif ac nad ydy e’n bodoli bellach. mewn dŵr neu pan mae wedi ymdoddi. Er enghraifft, os ydyn ni’n gyrru trydan drwy blwm bromid tawddRhywbeth sy’n cael ei leihau i ffurf hylif drwy wresogi. Term sy’n cael ei ddefnyddio’n bennaf i ddisgrifio craig, gwydr neu fetel., mae’r plwm(II) bromid yn dadelfennu i ffurfio plwm a bromin.