Electrolysis ac echdynnu alwminiwmHanner hafaliadau ïonig

Mae electrolysis yn golygu defnyddio trydan i ddadelfennu electrolytau i ffurfio elfennau. Gallwn ni ragfynegi beth fydd cynhyrchion electrolysis ar gyfer electrolyt penodol. Mae alwminiwm yn un metel sy’n cael ei echdynnu o’i fwyn fel hyn.

Part ofCemegMetelau ac echdynnu metelau

Hanner hafaliadau ïonig

Mae hanner hafaliad yn dangos beth sy’n digwydd ar un o’r yn ystod . Mae electronau wedi’u dangos fel e. Rydyn ni’n cydbwyso hanner hafaliad drwy adio, neu dynnu, nifer o electronau sy’n hafal i gyfanswm nifer y ar yr yn yr hafaliad.

Pan mae ïonau metel positif (catïonau) yn cyrraedd yr electrod negatif (y catod), maen nhw’n ennill electronau i ffurfio metel niwtral. Rhydwythiad yw hyn.

Pb2+ + 2e → Pb

Pan mae ïonau anfetel negatif (anionau) yn cyrraedd yr electrod positif (yr anod), maen nhw’n colli electronau i ffurfio atomau neu niwtral. Ocsidiad yw colli electronau fel hyn.

2Br → Br2 + 2e NEU 2Br – 2e → Br2

Un ffordd o gofio hyn yw drwy ddefnyddio’r mnemonig Saesneg OIL RIG:

Oxidation Is Loss of electrons, Reduction Is Gain of electrons.

Ysgrifennu hanner hafaliadau

Mae catïonau’n mynd at y catod (electrod negatif). Mae angen iddyn nhw ennill digon o electronau i’w gwneud nhw’n niwtral. Felly, mae angen i ïon Al3+ ennill tri electron.

Al3+ + 3e → Al

Mae’n anoddach cydbwyso hanner hafaliadau anionau anfetel. Er enghraifft, mae ïonau clorid yn gwneud nwy clorin. Mae’r rhan fwyaf o elfennau anfetel sy’n ffurfio yn ystod electrolysis yn foleciwlau deuatomig (fel Cl2).

2Cl → Cl2

Mae angen ychwanegu dau electron i gydbwyso’r wefr fel bod yr un wefr ar y ddwy ochr. Mae angen i’r ddau electron fynd ar yr ochr dde, fel bod gan y ddwy ochr gyfanswm gwefr o –2.

2Cl → Cl2 + 2e