Electrolysis halwynau tawdd
Mae sylweddau newydd yn ffurfio pan mae cyfansoddyn ïonigMae cyfansoddyn ïonig yn digwydd pan mae ïon negatif (atom sydd wedi ennill electron) yn cysylltu ag ïon positif (atom sydd wedi colli electron). Mae’r ïonau’n cyfnewid electronau i greu plisgyn allanol llawn.tawddRhywbeth sy’n cael ei leihau i ffurf hylif drwy wresogi. Term sy’n cael ei ddefnyddio’n bennaf i ddisgrifio craig, gwydr neu fetel. neu wedi’i hydoddi’n dargludo trydan. Er enghraifft, gallwn ni ddefnyddio plwm(II) bromid i gynhyrchu bromin a phlwm yn y broses ganlynol:
- rhoi plwm(II) bromid solid mewn crwsibl a’i wresogi dros losgydd Bunsen nes ei fod yn toddi
- rhoi dau electrodDargludydd rydyn ni’n ei ddefnyddio i sefydlu cyswllt trydanol â chylched. Enw’r electrod sydd wedi’i gysylltu â therfynell negatif batri yw’r electrod negatif, neu’r catod. Enw’r electrod sydd wedi’i gysylltu â therfynell bositif batri yw’r electrod positif, neu’r anod. carbon yn yr electrolyt tawdd a gyrru cerrynt union rhwng y ddau
Rydyn ni’n dewis electrodau carbon am bod ganddyn nhw ymdoddbwynt uchel a’u bod nhw’n anadweithiol (ddim yn adweithio â’r adweithyddion a’r cynhyrchion yn ystod electrolysis). Mae’r tabl yn crynhoi’r arsylwadau.
| Arsylwad | Esboniad | |
| Anod (positif) | Swigod o nwy brown | Cynhyrchu anwedd bromin (Br2) |
| Catod (negatif) | Metel hylif lliw arian yn bresennol ar yr electrod hwn o dan weddill yr electrolyt tawdd | Cynhyrchu plwm (Pb) |
| Anod (positif) | |
|---|---|
| Arsylwad | Swigod o nwy brown |
| Esboniad | Cynhyrchu anwedd bromin (Br2) |
| Catod (negatif) | |
|---|---|
| Arsylwad | Metel hylif lliw arian yn bresennol ar yr electrod hwn o dan weddill yr electrolyt tawdd |
| Esboniad | Cynhyrchu plwm (Pb) |
Mae’n hawdd rhagfynegi cynhyrchion electrolysis electrolytau tawdd oherwydd maen nhw’n hollti i ffurfio’r elfenSylwedd sydd wedi'i wneud o un math o atom yn unig.:
- mae’r metel yn ffurfio ar yr electrod negatif oherwydd dyna sy’n atynnu’r ïonau metel positif
- mae’r elfen anfetel yn ffurfio ar yr electrod positif oherwydd dyna sy’n atynnu’r ïonau anfetel negatif
| Cyfansoddyn | Anod (positif) | Catod (negatif) |
| Sinc clorid (ZnCl2) | Clorin (Cl2) | Sinc (Zn) |
| Alwminiwm ocsid (Al2O3) | Ocsigen (O2) | Alwminiwm (Al) |
| Cyfansoddyn | Sinc clorid (ZnCl2) |
|---|---|
| Anod (positif) | Clorin (Cl2) |
| Catod (negatif) | Sinc (Zn) |
| Cyfansoddyn | Alwminiwm ocsid (Al2O3) |
|---|---|
| Anod (positif) | Ocsigen (O2) |
| Catod (negatif) | Alwminiwm (Al) |