Echdynnu metelau a’r gyfres adweithedd
Rydyn ni’n echdynnu metelau o mwynCraig sy’n cynnwys symiau digon mawr o sylwedd i allu ei echdynnu., sef creigiau yng nghramen y Ddaear sy’n cynnwys cyfansoddion metel. Dyma enghreifftiau o rai mwynau:
- haematit (Fe2O3)
- bocsit (Al2O3)
- galena (PbS)
Mae’r dull rydyn ni’n ei ddefnyddio i echdynnu metelau’n dibynnu ar sefydlogrwydd ei cyfansoddynSylwedd sy'n cael ei ffurfio gan uniad cemegol dwy neu ragor o elfennau drwy ffurfio bond neu fondiau. yn y mwyn, sydd yn ei dro’n dibynnu ar adweitheddFfordd o fesur pa mor egnïol bydd sylwedd yn adweithio. Y mwyaf adweithiol yw'r sylwedd, y mwyaf yw ei adweithedd a'r mwyaf egnïol fydd ei adweithiau. y metel.
- Mae metelau adweithiol iawn, fel alwminiwm, yn ffurfio ocsidau a chyfansoddion eraill sefydlog. Rydyn ni fel rheol yn defnyddio electrolysisDefnyddio cerrynt trydanol i ddadelfennu (torri i lawr) cyfansoddyn. i echdynnu’r metelau hyn, ac mae angen llawer o gerrynt trydan (egni) i’w rhydwythiadAdwaith lle mae sylwedd yn colli ocsigen neu’n ennill electronau. nhw i echdynnu’r metel.
- Mae metelau llai adweithiol, fel haearn, yn ffurfio ocsidau a chyfansoddion eraill llai sefydlog. Rydyn ni’n aml yn rhydwytho’r cyfansoddion hyn â charbon i echdynnu’r metelau, ac mae angen llai o egni i’w rhydwytho nhw i echdynnu’r metel.
Felly, mae’r dull sy'n cael ei ddefnyddio i echdynnu metel o’i fwyn yn dibynnu ar safle’r metel yn y gyfres adweithedd.
Adweithedd a dull echdynnu
Mae’r tabl yn dangos rhai metelau o’r mwyaf adweithiol i’r lleiaf adweithiol, ac yn nodi’r dulliau sy'n cael eu defnyddio i’w hechdynnu nhw.
| Metel | Dull |
| Potasiwm | Electrolysis |
| Sodiwm | Electrolysis |
| Calsiwm | Electrolysis |
| Magnesiwm | Electrolysis |
| Alwminiwm | Electrolysis |
| (Carbon) | (Anfetel) |
| Sinc | Rhydwytho â charbon neu garbon monocsid |
| Haearn | Rhydwytho â charbon neu garbon monocsid |
| Tun | Rhydwytho â charbon neu garbon monocsid |
| Plwm | Rhydwytho â charbon neu garbon monocsid |
| (Hydrogen) | (Anfetel) |
| Copr | Amrywiaeth o adweithiau cemegol |
| Arian | Amrywiaeth o adweithiau cemegol |
| Aur | Amrywiaeth o adweithiau cemegol |
| Platinwm | Amrywiaeth o adweithiau cemegol |
| Metel | Potasiwm |
|---|---|
| Dull | Electrolysis |
| Metel | Sodiwm |
|---|---|
| Dull | Electrolysis |
| Metel | Calsiwm |
|---|---|
| Dull | Electrolysis |
| Metel | Magnesiwm |
|---|---|
| Dull | Electrolysis |
| Metel | Alwminiwm |
|---|---|
| Dull | Electrolysis |
| Metel | (Carbon) |
|---|---|
| Dull | (Anfetel) |
| Metel | Sinc |
|---|---|
| Dull | Rhydwytho â charbon neu garbon monocsid |
| Metel | Haearn |
|---|---|
| Dull | Rhydwytho â charbon neu garbon monocsid |
| Metel | Tun |
|---|---|
| Dull | Rhydwytho â charbon neu garbon monocsid |
| Metel | Plwm |
|---|---|
| Dull | Rhydwytho â charbon neu garbon monocsid |
| Metel | (Hydrogen) |
|---|---|
| Dull | (Anfetel) |
| Metel | Copr |
|---|---|
| Dull | Amrywiaeth o adweithiau cemegol |
| Metel | Arian |
|---|---|
| Dull | Amrywiaeth o adweithiau cemegol |
| Metel | Aur |
|---|---|
| Dull | Amrywiaeth o adweithiau cemegol |
| Metel | Platinwm |
|---|---|
| Dull | Amrywiaeth o adweithiau cemegol |
Mae electrolysis yn cael ei ddefnyddio i echdynnu metelau mwy adweithiol na charbon, fel alwminiwm, a gallwn ni echdynnu metelau llai adweithiol na charbon, fel haearn, drwy eu rhydwytho nhw â charbon.
Mae aur mor anadweithiol, mae’n bodoli fel y metel yn naturiol ac nid fel cyfansoddyn. Does dim angen ei wahanu’n gemegol. Fodd bynnag, efallai y bydd angen adweithiau cemegol i gael gwared ag elfennau eraill allai halogi’r metel.