Adweithiau dadleoli ocsidau metel
Bydd metel mwy adweithiol yn dadleoliCymryd lle sylwedd arall mewn adwaith cemegol. Er enghraifft, gall metel ddadleoli metel llai adweithiol o’i ocsid, gan dynnu’r ïonau ocsid o’r metel llai adweithiol a throi’n ocsid ei hun. metel llai adweithiol o cyfansoddynSylwedd sy'n cael ei ffurfio gan uniad cemegol dwy neu ragor o elfennau drwy ffurfio bond neu fondiau.. Mae’r adwaith thermitAdwaith dadleoliad neu gystadleuaeth rhwng alwminiwm a haearn ocsid sy'n cynhyrchu alwminiwm ocsid a haearn. Mae'n rhyddhau digon o wres i doddi'r haearn, felly gallwn ni ei ddefnyddio i gysylltu cledrau rheilffordd â'i gilydd. yn enghraifft dda o hyn. Rydyn ni’n ei ddefnyddio i gynhyrchu haearn tawdd (hylifol) gwynias mewn lleoliadau anghysbell ar gyfer weldio. Mae angen llawer o wres i ddechrau’r adwaith (rydyn ni’n defnyddio ffiws magnesiwm, sy’n rhoi gwres i’r adweithyddion), ond yna mae’n rhyddhau swm anhygoel o wres sy’n ddigon i doddi’r haearn.
alwminiwm + haearn(III) ocsid → haearn + alwminiwm ocsid
2Al + Fe2O3 → 2Fe + Al2O3
Gan fod alwminiwm yn fwy adweithiol na haearn, mae’n dadleoli haearn o haearn(III) ocsid. Mae’r alwminiwm yn tynnu ocsigen o’r haearn(III) ocsid:
- mae haearn(III) ocsid yn cael ei rhydwythiadAdwaith lle mae sylwedd yn colli ocsigen neu’n ennill electronau.
- mae alwminiwm yn cael ei ocsidiadAdwaith lle mae sylwedd yn ennill ocsigen neu’n colli electronau.
Mae’r adweithiau rhwng metelau ac ocsidau metel yn caniatáu i ni roi detholiad o fetelau mewn cyfres adweithedd. Gan ddefnyddio metelau A, B ac C:
| Metel A | Metel B | Metel C | |
| A ocsid | X | Dadleoli A | Dadleoli A |
| B ocsid | Dim adwaith | X | Dim adwaith |
| C ocsid | Dim adwaith | Dadleoli C | X |
| A ocsid | |
|---|---|
| Metel A | X |
| Metel B | Dadleoli A |
| Metel C | Dadleoli A |
| B ocsid | |
|---|---|
| Metel A | Dim adwaith |
| Metel B | X |
| Metel C | Dim adwaith |
| C ocsid | |
|---|---|
| Metel A | Dim adwaith |
| Metel B | Dadleoli C |
| Metel C | X |
- Dydy metel A ddim yn gallu dadleoli B nac C – felly mae’n rhaid mai hwn yw’r lleiaf adweithiol a’i fod ar waelod y gyfres adweithedd hon.
- Mae metel B yn dadleoli A a hefyd C – felly mae’n rhaid mai hwn yw’r mwyaf adweithiol a’i fod ar frig y gyfres adweithedd hon.
- Mae metel C yn dadleoli A ond yn methu dadleoli C – felly mae’n rhaid ei fod yn fwy adweithiol nag A ond yn llai adweithiol na B, a’i fod rhwng y ddau yn y gyfres adweithedd hon.
Felly, y drefn yw:
Yn gyffredinol, y mwyaf yw’r gwahaniaeth rhwng adweithedd dau fetel mewn adwaith dadleoli, y mwyaf o egni sy’n cael ei ryddhau.
Mae alwminiwm yn llawer uwch na haearn yn y gyfres adweithedd, felly mae’r adwaith thermit yn rhyddhau llawer o egni. Mae magnesiwm yn uchel iawn yn y gyfres adweithedd, ac mae copr yn isel iawn – felly mae’r adwaith rhwng magnesiwm a chopr(II) ocsid yn fwy ffyrnig.