Ocsidio a rhydwytho
Ocsidio yw pan mae sylwedd yn colli electronGronyn isatomig yw electron, sydd â gwefr negatif a'i fàs yn ddibwys o'i gymharu â phroton a niwtron.. Rydyn ni hefyd yn defnyddio’r term i nodi bod sylwedd yn ennill ocsigen. Er enghraifft, mae magnesiwm yn cael ei ocsidio wrth adweithio ag ocsigen i ffurfio magnesiwm ocsid:
magnesiwm + ocsigen → magnesiwm ocsid
2Mg + O2 → 2MgO
rhydwythiadAdwaith lle mae sylwedd yn colli ocsigen neu’n ennill electronau. yw pan mae sylwedd yn ennill electronau. Rydyn ni hefyd yn defnyddio’r term i nodi bod sylwedd yn colli ocsigen. Er enghraifft, gallwn ni rydwytho copr(II) ocsid i ffurfio copr wrth iddo adweithio â hydrogen:
copr(II) ocsid + hydrogen → copr + dŵr
CuO + H2 → Cu + H2O
Fel arfer, mae ocsidio a rhydwytho’n digwydd ar yr un pryd mewn adwaith. Rydyn ni’n galw’r math hwn o adwaith yn adwaith rhydocs (rhyd – rhydwytho, ocs – ocsidio).
Cofia:
- yr ocsidydd yw’r cemegyn sy’n achosi ocsidio drwy ddarparu ocsigen
- mae’r rhydwythydd yn achosi i’r cemegyn arall gael ei rydwytho drwy dynnu ocsigen
Edrych ar yr adwaith thermitAdwaith dadleoliad neu gystadleuaeth rhwng alwminiwm a haearn ocsid sy'n cynhyrchu alwminiwm ocsid a haearn. Mae'n rhyddhau digon o wres i doddi'r haearn, felly gallwn ni ei ddefnyddio i gysylltu cledrau rheilffordd â'i gilydd. isod:
alwminiwm + haearn(III) ocsid → haearn + alwminiwm ocsid
2Al + Fe2O3 → 2Fe + Al2O3
Mae alwminiwm wedi cael ei ocsidio. Mae hyn yn golygu mai’r haearn(III) ocsid yw’r ocsidydd. Gallwn ni weld hefyd bod yr haearn(III) ocsid wedi cael ei rydwytho. Mae hyn yn golygu mai’r alwminiwm yw’r rhydwythydd.