Rhydocs i echdynnu haearn a metelau trosiannolEchdynnu haearn

Mae adweithiau rhydocs yn digwydd wrth echdynnu metelau o’u mwynau, er enghraifft echdynnu haearn drwy ei rydwytho yn y ffwrnais chwyth. Mae gan y metelau trosiannol ymdoddbwyntiau a dwyseddau uchel, maen nhw’n ffurfio cyfansoddion lliw ac maen nhw’n gweithredu fel catalyddion.

Part ofCemegMetelau ac echdynnu metelau

Echdynnu haearn

Y ffwrnais chwyth

Rydyn ni’n echdynnu haearn o haearn mewn cynhwysydd enfawr o’r enw ffwrnais chwyth. Mae mwynau haearn fel haematit yn cynnwys haearn(III) ocsid, Fe2O3. Rhaid tynnu’r ocsigen o’r haearn(III) ocsid er mwyn gadael yr haearn ar ôl. Yr enw ar adweithiau sy’n tynnu ocsigen yw adweithiau rhydwytho.

Defnyddiau crai’r adwaith

Defnydd craiYn cynnwysSwyddogaeth
Mwyn haearn (haematit)Haearn(III) ocsid (Fe2O3)Cyfansoddyn rydyn ni’n echdynnu’r haearn ohono
GolosgCarbon (C)Rydyn ni’n ei ddefnyddio fel tanwydd ac mae’n adweithio i ffurfio carbon monocsid (mae angen hwn i rydwytho’r haearn(III) ocsid)
CalchfaenCalsiwm carbonad (CaCO3)Mae’n helpu i dynnu amhureddau asidig o’r haearn(III) ocsid drwy adweithio â nhw i ffurfio slag tawdd
AerOcsigen (O2)Darparu ocsigen fel bod y golosg yn gallu llosgi, ac felly mae’n cynhyrchu gwres
Defnydd craiMwyn haearn (haematit)
Yn cynnwysHaearn(III) ocsid (Fe2O3)
SwyddogaethCyfansoddyn rydyn ni’n echdynnu’r haearn ohono
Defnydd craiGolosg
Yn cynnwysCarbon (C)
SwyddogaethRydyn ni’n ei ddefnyddio fel tanwydd ac mae’n adweithio i ffurfio carbon monocsid (mae angen hwn i rydwytho’r haearn(III) ocsid)
Defnydd craiCalchfaen
Yn cynnwysCalsiwm carbonad (CaCO3)
SwyddogaethMae’n helpu i dynnu amhureddau asidig o’r haearn(III) ocsid drwy adweithio â nhw i ffurfio slag tawdd
Defnydd craiAer
Yn cynnwysOcsigen (O2)
SwyddogaethDarparu ocsigen fel bod y golosg yn gallu llosgi, ac felly mae’n cynhyrchu gwres
Ffwrnais chwyth. Mwyn haearn, carbon a chalchfaen yn y top, aer i mewn yn y gwaelod. Aer i mewn i barth 1, nwyon gwastraff allan o barth 3. Slag allan o dan barth 1, haearn allan yn y gwaelod.

Mae carbon yn fwy na haearn, felly mae’n gallu haearn o haearn(III) ocsid. Dyma hafaliadau’r adwaith.

Cam un – Mae aer poeth (ocsigen) yn adweithio â’r golosg (carbon) i gynhyrchu carbon deuocsid ac egni gwres i wresogi’r ffwrnais.

C(s) + O2(n) → CO2(n)

Cam dau – Ychwanegu mwy o olosg at y ffwrnais i rydwytho’r carbon deuocsid i ffurfio carbon monocsid, sy’n rhydwythydd da.

CO2(n) + C(s) → 2CO(n)

Cam tri – rhydwytho haearn(III) ocsid.

haearn(III) ocsid + carbon → haearn + carbon deuocsid

2Fe2O3(s) + 3C(s) → 4Fe(h) + 3CO2(n)

Yn yr adwaith hwn, mae’r haearn(III) ocsid yn cael ei i ffurfio haearn, ac mae’r carbon yn cael ei i ffurfio carbon deuocsid.

Yn y ffwrnais chwyth, mae hi mor boeth nes y gallwn ni ddefnyddio carbon monocsid, yn lle carbon, i rydwytho’r haearn(III) ocsid:

haearn(III) ocsid + carbon monocsid → haearn + carbon deuocsid

Fe2O3(s) + 3CO(s) → 2Fe(h) + 3CO2(n)

Cael gwared ag amhureddau

Mae’r calsiwm carbonad yn y calchfaen yn yn i ffurfio calsiwm ocsid.

calsiwm carbonad → calsiwm ocsid + carbon deuocsid

CaCO3(s) → CaO(s) + CO2(n)

Mae’r calsiwm ocsid yna’n adweithio ag amhureddau silica (tywod) yn yr haematit, i gynhyrchu slag – sef calsiwm silicad. Mae hwn yn cael ei wahanu oddi wrth yr haearn a'i ddefnyddio i wneud arwynebau ffyrdd.

calsiwm ocsid + silica → calsiwm silicad

CaO(s) + SiO2(s) → CaSiO3(h)

Mae’r adwaith hwn yn adwaith . Mae calsiwm ocsid yn (gan ei fod yn ocsid metel) ac mae silica yn (gan ei fod yn ocsid anfetel).

Dewis safle i’r ffwrnais chwyth

Mae nifer o ffactorau pwysig i’w hystyried wrth ddewis safle ffwrnais chwyth. Dylai ffwrnais chwyth fod:

  • yn agos at yr arfordir er mwyn gallu mewnforio defnyddiau crai
  • yn agos at ffyrdd a rheilffyrdd er mwyn gallu mynd â chynhyrchion i ble mae eu hangen
  • yn agos at dref neu ddinas, fel bod rhywle i weithwyr fyw gerllaw
  • yn bell oddi wrth ardaloedd adeiledig, fel nad yw sŵn a llygredd y safle’n effeithio ar y boblogaeth leol

Mae Port Talbot, yn ne Cymru, yn enghraifft dda o safle addas i ffwrnais chwyth.